Mai – Rhagfyr 2025 

Bydd Re-Live o Gymru a Sefydliad Lles Cymdeithasol Kenjin-kai o Japan yn dod ynghyd i gydweithio’n greadigol am y tro cyntaf, a hynny er mwyn llunio comic dementia yng nghwmni pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd, a gweithwyr gofal o’r naill wlad a’r llall. Mae’r prosiect hwn yn ddechrau ar bennod newydd gyffrous yn y bartneriaeth, a honno wedi cael ei meithrin ers 2010 drwy ymrwymiad cyffredin i’r celfyddydau, iechyd a lles. Comic fydd hwn a gaiff ei gyhoeddi yn Gymraeg, Japaneg a Saesneg, a bydd yn cael ei ddosbarthu i siopau, gwasanaethau gofal dementia a gofodau diwylliannol, yn ogystal ag i lunwyr polisïau. Bydd y prosiect yn hybu cyfnewid diwylliannol, yn dyfnhau dealltwriaeth pobl o ddementia, ac yn amlygu grym cymunedau i adrodd eu straeon eu hunain. Bydd hefyd yn cryfhau cynlluniau sy’n cyfuno’r celfyddydau a’r byd iechyd yn y ddwy wlad yn y dyfodol. 

 

20255月~12

ウェールズを拠点とするリ・リブと、日本の社会福祉法人 健仁会が初めて行う創造的なコラボレーションであり、両国に住む認知症の人々、家族、介護者とともに二言語の認知症コミックを共同制作します。

このプロジェクトは、2010年以来「芸術・健康・ウェルビーイング」への共通の取り組みを通じて築いてきた長年のつながりに基づき、新たな章を刻むものです。このコミックはウェールズ語、日本語、英語で出版され、漫画専門店、認知症ケアサービス、文化施設、政策立案者などに広く配布されます。本プロジェクトは文化交流を促進し、認知症への理解と「地域社会が自らの物語を語る力」を深め、両国における今後のアート・イン・ヘルスの取り組みを強化します。