Oishi, Fujikawaguchiko-machi • Llanbedrog | Hydref 2025
Bydd y prosiect cydweithredol hwn yn dechrau drwy gynnal cyfnodau preswyl yn y ddwy wlad. Bydd Rae Morris, yr artist sy’n gweithio gyda choed, yn cael cyfle amhrisiadwy i ddod i ddeall arferion a thraddodiadau gwaith coed Japaneaidd, a hynny dros fis yng Nghymdeithas Diwylliant Pren Mt Fuji yn Japan. Yn gyfnewid, bydd gweithiwr coed o Japan yn teithio i Gymru i dreulio cyfnod preswyl mis o hyd ym Mhlas Glyn-y-Weddw, lle bydd yn cael arweiniad arbenigol ac yn cael ei fentora gan stiwdio enwog John Egan a Junko Mori.
Bydd y cyfnewid hwn yn rhan o brosiect Coed/Coexist, a gychwynnwyd gan Junko Mori a John Egan, yr artistiaid o Ben Llŷn, mewn partneriaeth â Phlas Glyn-y-Weddw. Hanfod y prosiect fydd tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, ceisio meithrin cysylltiadau ehangach, dangos ein dyheadau a’n dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn, a thrwy’r cyfan, creu cysylltiadau rhwng cymunedau, creadigrwydd a gofalu am yr amgylchedd. Mae’r prosiect yn dathlu ardal leol a chymunedau Pen Llŷn, yn ogystal â chysylltiadau byd-eang cyffredin a’n cyfrifoldeb i ofalu am genedlaethau’r dyfodol.

大石(富士河口湖町)・ランベドロッグ|2025年秋
このコラボレーションプロジェクトは相互レジデンス交換から始まり、選出されたウェールズの木工家レイ・モリスには、日本の木工技術や伝統に1か月間没頭する貴重な機会が提供されます。滞在先は Mt.Fuji Wood Culture Society まなびの杜 です。
交換として、日本の木工家がウェールズを訪れ、プラス・グリン・ア・ウェズウ(Plas Glyn y Weddw) にて1か月間のレジデンスを行い、著名なジョン・イーガンと森純子のスタジオから専門的な指導と助言を受けます。
この交換は、プラス・グリン・ア・ウェズウとスリン半島を拠点とするアーティスト森純子とジョン・イーガンが立ち上げたプロジェクト「Coed/Coexist」の一環です。本プロジェクトの本質は、地域社会・創造性・環境保全を結びつけることで、これらの生態系へのつながりを広め、欲求と依存関係を探りながら「木」や「森」に目を向けることです。このプロジェクトは、スリン半島の地域とコミュニティを祝福すると同時に、将来の世代に向けた世界的なつながりと責任を分かち合うものです。