Osaka • Kobe • Kyoto | 23 Hydref – 04 Tachwedd 

Bydd Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn creu partneriaeth â dau sefydliad llenyddol o bwys yn Japan, sef y Sefydliad Llenyddiaeth Plant Rhyngwladol (IICLO) yn Osaka, a Bwrdd Llyfrau Pobl Ifanc Japan (JBBY). Mae’r prosiect hybrid hwn yn ceisio dod â phobl sy’n creu llyfrau i blant a chyhoeddwyr o Gymru a Japan ynghyd i gydweithio a chreu cysylltiadau newydd. Bydd dau ddarlunydd o Gymru, Valériane Leblond a Liz Fenwick, yn teithio i Japan ac yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai gyda Yoshifumi Hasegawa, artist a chrëwr llyfrau plant enwog o Osaka. Byddan nhw’n cyfnewid syniadau am themâu sy’n cysylltu’r ddau ddiwylliant ac yn trafod ffyrdd o greu straeon a chymeriadau. Gyda’i gilydd, byddan nhw’n cyflwyno’r prosiect mewn digwyddiad cyhoeddus yn Llyfrgell Ganolog Osaka.  

Bydd Valériane a Liz hefyd yn cynnal gweithdai creu llyfrau lluniau gyda phlant, ac yn rhwydweithio gydag aelodau SCBWI, y sefydliad aelodaeth rhyngwladol i bobl sy’n creu llyfrau i blant. Byddan nhw’n trafod diwylliant Japan a’r modd mae hwnnw’n cael ei adlewyrchu mewn llyfrau i ddarllenwyr ifanc, gan edrych ymlaen at gael eu hysbrydoli gan y straeon a’r darluniau y byddan nhw’n dod ar eu traws yn ystod eu pythefnos yn y wlad. I gloi’r prosiect, bydd cyfarfod ar-lein o gyhoeddwyr o Japan a Chymru yn cael ei drefnu er mwyn hyrwyddo diwylliant dwyieithog Cymru ac annog rhagor o gyfnewid yn y dyfodol. 

 

大阪・神戸・京都|20251023日~114

リテラチャー・アクロス・フロンティアーズ(国境を越える文学)は、日本の2つの重要な文学団体――大阪国際児童文学振興財団(IICLO)、および日本国際児童図書評議会(JBBY)と提携しています。

このハイブリッドプロジェクトは、ウェールズと日本の児童書作家や出版社をつなぎ、新しいつながりを築くことを目的としています。ウェールズからイラストレーターのヴァレリアンヌ・ルブロンとリズ・フェンウィックが来日し、大阪を拠点に活躍する著名な児童書作家・長谷川義史と一連のワークショップに参加します。ここでは、両文化をつなぐテーマや、物語やキャラクターを創造するアプローチについて意見交換が行われ、大阪市中央図書館にて一般公開イベントとして成果を発表します。

さらに、ヴァレリアンヌとリズは子どもたちと一緒に絵本作りのワークショップを開催し、国際児童図書評議会(SCBWI)のメンバーと交流します。彼女たちは日本文化と児童書において日本文化がどのように表象されているかを探り、2週間の滞在で出会う物語やイメージから大きなインスピレーションを得ることを楽しみにしています。

プロジェクトの締めくくりとして、日本とウェールズの児童書出版社によるオンライン会合が行われ、ウェールズの二言語文化を発信し、将来的な交流を促進します。