Tokyo • Tottori • Osaka | 25 Medi - 08 Hydref 2025 

Bydd Hijinx Theatre, y cwmni sydd wedi ennill gwobrau am ei waith gyda phobl sydd ag anableddau dysgu a phobl sydd heb anableddau dysgu, yn cyflwyno’i gynhyrchiad, Meet Fred, i gynulleidfaoedd yn Japan.Cynhyrchiad yw hwn sydd wedi cael ei ganmol i’r cymylau gan y beirniaid. Bydd y gyfnewidfa’n fodd o gwblhau’r cylch, gan mai pyped Bunraku yw prif gymeriad Meet Fred, a thraddodiadau pypedau Japan sydd wedi’i ysbrydoli’n uniongyrchol. Uchelgais y cwmni ers tro byd fu dod â’r cynhyrchiad i’r wlad lle tarddodd y ffurf gelfyddydol hon, a lle mae’r gelfyddyd yn dal i gael ei mawrygu.  

Gan weithio gyda dau o bartneriaid yn Japan, sef SLOW LABEL yn Tokyo a’r Bird Theatre Festival yn Tottori, bydd Hijinx yn cynnal gweithdai i gyfranogwyr anabl a niwroamrywiol, yn trefnu trafodaethau panel, ac yn trafod cyfleoedd posibl i gydweithio yn y dyfodol. Nod y cyfnewid hwn yw sefydlu partneriaethau hirhoedlog a allai gynnwys mynd â chynyrchiadau Hijinx ar deithiau i Japan yn y dyfodol, a threfnu perfformiadau Japaneaidd yng Ngŵyl Undod Hijinx yng Nghymru. 

 

東京・鳥取・大阪|2025年9月25日~10月8日

ウェールズの受賞歴ある学習障害のある人とない人が共に活動する劇団ハイジンクス・シアターが、国際的に高く評価されている作品『Meet Fred(フレッドに会おう)』を日本の観客に届けます。

このプロジェクトは、鳥取の鳥の演劇祭での公演を含み、ハイジンクスのインクルーシブ演劇のアプローチを日本の観客に紹介します。作品の中心人物であるフレッドは、日本の人形劇文楽から直接インスピレーションを受けて生み出された操り人形なので、この交流は劇団にとって長年の夢の実現となります。 

東京のSLOW LABEL、鳥取の鳥の演劇祭という日本の2つの主要なパートナーと連携し、障害者やニューロダイバージェントの参加者向けのワークショップやパネルディスカッションを実施し、将来的な協働の可能性を探ります。この交流は、今後ハイジンクスの作品の日本ツアーや、日本の作品がウェールズのハイジンクス・ユニティ・フェスティバルで上演されることにつながる長期的なパートナーシップを目指しています。