Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma Chembo Liandisha yn trafod ei phrosiect a’i thaith hyd yma.

 

Dyma brosiect clyweled sy'n ymchwilio i'r anawsterau o addasu i sefyllfa amgylcheddol a chymdeithasol Catete sydd mor gyfnewidiol drwy wrando ar bryderon a gobeithion henafgwyr ac ieuenctid Chewa o Lusaca, Sambia. 

 

Ar ba iaith/cymuned frodorol y buoch chi yn gwrando a gyda phwy ydych chi wedi bod yn cydweithio?   

Mae'r term Namvwa yn golygu "Dwi wedi clywed/gwrando"yn Chichewa / Achewa. Dechreuais y broses o wrando drwy ddefnyddio llwyfannau ar-lein i gysylltu â phobl ifanc Chewa, y rhan fwyaf sy’n byw yn Lusaca. Hwylusais y broses drwy sôn am fy ystyriaethau personol ynghylch fy hunaniaeth lwythol. Arweiniodd hynny at drafod hunaniaeth Chewa, cadw a defnyddio’r iaith a faint o bobl sy’n ei defnyddio. Roedd sôn hefyd am amddiffyn yr amgylchedd yn y famwlad, Catete, a llawer o bethau eraill.  Fy partner-sefydliad yn Sambia oedd Syrcas Sambia. 

  

Beth hoffech chi ei rannu am eich taith?  

Pan ymwelais â Lusaca, roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc o dras Chewa yno’n agored iawn am eu hofnau bod yr iaith yn marw gan gyfeirio at bwysau’r Saesneg, iaith swyddogol Sambia. Mae hyn yn broblem wrth i bobl gael eu gorfodi i fod yn rhugl yn Saesneg yn hytrach na’u mamiaith oherwydd gwerth masnachol, proffesiynol a chymdeithasol y Saesneg. 

Pan deithiais i Gatete gyda fy nghydweithiwr o Syrcas Sambia, roeddem wedi cwrdd â hynafgwr o'r pentref. Dywedodd wrthym mai proses ddifrifol iawn oedd trefnu cwrdd â’r Brenin y Chewa, y Gawa Wndi. Roedd yn amhosibl i’w gwrdd o fewn diwrnod neu ddau o ofyn yn gyntaf. Dylaswn fod wedi cysylltu i drefnu hyn fis ymlaen llaw fel arwydd o barch i’r Brenin. Dysgais mai amynedd ac ymchwil yw’r prif elfennau wrth wrando. 

 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig?  

I mi, mae’r Degawd yn gyfle i bobl y byd ddyfnhau eu cysylltiad â'u mamiaith yn ogystal ag ieithoedd y byd y maent am gysylltu â nhw.  

Nid cyfle’n unig mo hwn i ddogfennu a dadansoddi gallu presennol yr ieithoedd brodorol a rhai sydd mewn perygl ond hefyd cyfle i ddyfnhau sylfaen wybodaeth pob iaith er mwyn ei chadw at y dyfodol.  

Fy ngobaith personol yw dyfnhau fy ngwreiddiau yn fy mamiaith drwy ddefnyddio'r Degawd i ddyrchafu ieithoedd a’u diwylliant. Gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn cael effaith ar feddwl pobl ifanc Sambia (ac nid yn unig ar lwyth y Chewa). Mae gennyf obaith cryf y byddwn yn adfywio ein hieithoedd sy'n marw yn ystod y degawd ledled y byd ac yn cryfhau eu diwylliant. 

  

Beth yw un wers ymarferol rydych chi wedi'i ddysgu ac eisiau ei rhannu ag artistiaid eraill am weithio gydag ieithoedd brodorol?  

Fy nghyngor i artistiaid neu bobl sy'n gweithio gydag ieithoedd brodorol yw parchu bob amser y bobl rydych am wrando arnynt neu ddysgu oddi wrthynt. Gall hyn feddwl aros yn dawel a gadael i bobl brosesu eich cwestiynau gan ymatal rhag gofyn rhagor pan welwch fod y bobl eraill yn anghyfforddus neu am dewi. Rhaid inni ddysgu rhoi lle i’w taith emosiynol oherwydd y syniadau sydd o bosibl yn heriol. 

 

Dyma ffilm fer a gynhyrchwyd yn rhan o'r daith. Nid yw'r ffim wedi ei gwblhau eto.