Cefndir

Cynyrchiadau Mawr yw ein cronfa ar gyfer gwaith uchelgeisiol o safon gyda grantiau rhwng £100,000 a £300,000. 

Mae’n ariannu datblygu a chyflwyno profiadau celfyddydol byw o safon ac ar raddfa fawr i’n cynulleidfaoedd. Mae'n cefnogi sefydliadau sy'n creu gwaith unigryw ac arloesol â'r potensial i ymgysylltu â chynulleidfaoedd eang yng Nghymru a’r tu hwnt gan arddangos y gorau o dalent Cymru.  

Mae un dyddiad cau y flwyddyn. 

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Dim ond sefydliadau sy’n gallu ymgeisio. Darllenwch y meini prawf i sefydliadau i weld a ydych yn gymwys i ymgeisio.

Rhaid i bob sefydliad sy'n ymgeisio fod yng Nghymru.

Rhaid ichi fod â phrofiad o gyflwyno cynyrchiadau a hanes o reoli arian cyhoeddus.

Rhaid cysylltu â’n tîm grantiau i wirio eich bod yn gymwys cyn ichi gael ffurflen gais. 

Am beth mae modd ymgeisio? 

Byddwn yn ystyried cynigion i gynhyrchu gwaith perfformio byw ar raddfa fawr ym meysydd theatr, dawns a theatr gerdd.  

Mae’n bosibl ichi ail-lwyfannu a/neu uwchraddio gweithiau presennol neu newydd. Byddwn yn ystyried cynigion am waith safle-benodol. Ond rydym yn annog pobl i ymgeisio am gynyrchiadau sydd â chyrhaeddiad uchel a'r potensial i roi profiadau i gynulleidfaoedd eang ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae hyn yn gallu cynnwys teithio. 

Beth rydym yn ei ddisgwyl gan eich prosiect? 

Bydd y rhan fwyaf o’ch prosiect yn digwydd yng Nghymru. Bydd yn rhoi profiadau newydd a chyffrous i’n cynulleidfaoedd. Bydd cynigion yn gallu archwilio cael effaith yn rhyngwladol ac ar draws ffiniau. Ond rhaid i’r rhesymeg, yr ymgysylltiad a'r dystiolaeth o'r galw ddangos y gwerth ychwanegol a hirdymor i’n sector celfyddydol.  

Rhaid dangos tystiolaeth bod partneriaid ar waith sy’n gallu tyfu eich prosiect. Bydd eich cysylltiadau ag artistiaid, sefydliadau a rhanddeiliaid eraill yn dangos rhagoriaeth ac arbenigedd artistig gan brofi eich gallu i wireddu eich prosiect. Rhaid bod â thîm creadigol cryf a phrofiadol a phartneriaethau cadarn yn eich cynnig.  

Rhaid dangos strategaeth ariannu gadarn a bod ag arian arall i gyfrannu at eich costau. Rydym am weld cynlluniau cryf i dystio sut y byddwch yn cael incwm o ffynonellau eraill.  

Rhaid i o leiaf 25% o incwm eich prosiect ddod o ffynhonnell nad yw'n un Cyngor y Celfyddydau neu'r Loteri Genedlaethol ac o ran mewn nwyddau bydd uchafswm o 10%. Ond o gofio maint tebygol y prosiect, dylai ein harian fod yn rhan yn unig o strategaeth incwm gydag arian partneriaid eraill ac incwm sylweddol sy’n cael ei ennill.

Darllenwch y Nodiadau cymorth cyllid am ragor o wybodaeth.

Rhaid ichi adael digon o amser cyn dechrau’r prosiect a gwneud yn siŵr bod gan eich cynnig yr adnoddau cywir i greu gwaith o safon. Dim ond un rownd ariannu sydd y flwyddyn. Rhaid cynllunio ymhell cyn ymgeisio. Bydd eich amserlen yn cynnwys digon o amser i ddatblygu a hyrwyddo’r prosiect, datblygu’r gynulleidfa a chynnig allgymorth. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o'r tîm artistig a'r partneriaid sy’n rhan o’r prosiect i gyflawni’r gwaith yn ôl yr amserlen.

Rhaid i'ch prosiect ategu a gwella eich rhaglen weithgarwch arferol gan ddangos cynnydd sylweddol mewn uchelgais a graddfa. I sefydliadau sy’n cael arian amlflwyddyn, ni fyddwn yn ariannu elfennau o’r prosiect sy'n rhan o'ch gweithgarwch craidd a'ch rhaglen reolaidd. 

Ein blaenoriaethau ni a'ch cynnig chi 

Bydd eich cynnig yn dangos yn glir sut y bydd yn cefnogi un neu ragor o'r egwyddorion sydd yn ein cynllun corfforaethol:

Creadigrwydd – mae ym mhopeth a phawb rydym yn eu cefnogi. Rydym am weld ystod o gelfyddydau ac ymarferion creadigol sydd wedi'u datblygu gyda golwg ar y gynulleidfa a’r gymuned sy’n annog arloesedd artistig o safon  

Cydraddoldeb ac ymgysylltu - cyrraedd cymunedau sydd wedi'u tangynrychioli, yn ddiwylliannol, daearyddol, cymdeithasol ac economaidd. Cael gwared ar y rhwystrau a'r anawsterau sy'n eu hwynebu wrth brofi'r celfyddydau a sicrhau bod pobl amrywiol yn cael cynrychiolaeth lawn yn y gweithlu, fel arweinwyr, penderfynwyr, crewyr, ymwelwyr, cyfranogwyr ac aelodau o'r gynulleidfa

Y Gymraeg – datblygu cyfleoedd creadigol sy'n cyfrannu at dwf yn nefnydd y Gymraeg a’r berchnogaeth arni gan gefnogi'r sector i roi'r iaith yng nghanol creadigrwydd a’r gymuned

Cyfiawnder hinsawdd - cefnogi'r sector i ddatblygu creadigrwydd sy'n ysbrydoli pobl i weithredu dros gyfiawnder hinsawdd i greu sector sy’n amgylcheddol gynaliadwy a chyfrifol yn fyd-eang

Datblygu talent - gwneud yn siŵr bod llwybrau i bobl o bob cefndir allu datblygu gyrfa greadigol gynaliadwy gyda’r sgiliau a’r gallu i arwain. Cydweithio i gynnig i artistiaid cyfleoedd a gwaith teg i wella canlyniadau i’n pobl  

Trawsnewid - cryfhau gallu'r celfyddydau i fod yn ddeinamig a chynaliadwy. Bod yn ystwyth a hyderus i fentro, magu gwytnwch ac ymateb i newid i fod yn berthnasol i’n pobl a’n cymunedau

Rhaid i bob prosiect ddangos ymrwymiad i egwyddorion Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 

Am faint mae modd ymgeisio?  
  • £100,000 - £300,000

Bydd llawer o geisiadau’n cyrraedd y gronfa a dim ond £600,000 sydd i’w wario. Ychydig o geisiadau’n unig y bydd modd inni eu hariannu.  

Dim ond hyd at 75% o’ch costau prosiect cymwys y mae modd inni ei ariannu. Ond rydym yn disgwyl i'n cyfraniad fod yn llawer is. I gael gwybod rhagor am y gyllideb, y costau cymwys a ffioedd yr artistiaid, cliciwch yma  

Dyddiad cau ymgeisio 

Un dyddiad cau y flwyddyn sydd:

  • 1pm ddydd Mercher 28 Ionawr 2026  

Rydym yn gallu rhoi ffurflen gais ichi hyd at ddeg diwrnod cyn y dyddiad cau. Ond siaradwch â’n staff cyn gynted â phosibl serch hynny.

Nodwch os gwelwch yn dda: Rydym yn deall bod yn bosibl i’n harian ychwanegu at gynlluniau sydd eisoes ar y gweill. Ond nid oes modd inni dalu am gostau rydych eisoes wedi'u hysgwyddo. Dim ond am gostau’r dyfodol y bydd ein harian yn talu.

Rhaid gadael wyth wythnos waith o leiaf rhwng dyddiad cau’r gronfa a dyddiad dechrau eich prosiect (neu pan fydd yr elfen o'ch prosiect y bydd ein harian yn talu amdano’n  dechrau).  

Rhaid i'ch cais fod yn gyflawn. Ni fyddwn yn derbyn rhagor o wybodaeth ategol ar ôl ichi gyflwyno eich cais (oni bai mai ni sy’n gofyn amdani).  
 

Beth yw meini prawf y gronfa? 

Byddwn yn asesu eich cais yn ôl y meini prawf yma:  

  • safon, cryfder ac effaith y cynhyrchiad. Rydym yn disgwyl gweld cyfleoedd a/neu hyfforddiant â thâl priodol ar gyfer pobl greadigol lawrydd, gwneuthurwyr ac artistiaid unigol
  • ansawdd a phrofiad y tîm creadigol gan sicrhau bod yr ystod o sgiliau a phrofiad sydd yno’n gadarn ac yn adlewyrchu maint ac uchelgais y prosiect  
  • cynlluniau ar waith i gyrraedd cynulleidfa eang a photensial i greu effaith gyhoeddus gyffredinol  
  • sut mae’n mynd i'r afael â'n blaenoriaethau corfforaethol. Rhaid ystyried creadigrwydd, cydraddoldeb ac ymgysylltu, y Gymraeg, cyfiawnder hinsawdd, datblygu talent a thrawsnewid ond mae’n bosibl canolbwyntio ar bethau eraill hefyd. A gwneud cyfraniad tuag at ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu fel y mae’r Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei nodi
  • cryfder a pha mor berthnasol yw’r cysylltiadau a'r partneriaid sydd ar waith i gefnogi'r prosiect
  • cryfder y rheoli prosiect ac ariannol sydd ar waith. Ffordd o gynllunio am gymhlethdod, maint ac uchelgais y prosiect a defnydd priodol o arian cyhoeddus  
Pa gwestiynau bydd angen eu hateb? 

Mae templed o'r ffurflen gais yn yr adran Dogfennau Allweddol isod.

Rhaid ichi gyflwyno eich cyllideb ar ein templed.  

Mae modd cyflwyno atodiadau i gefnogi eich cais gan gynnwys:

  • cynllun prosiect  
  • cyllideb gynhyrchu lawn gan gynnwys rhagamcanion ariannol a rhesymeg am yr incwm a’r gwariant
  • deunyddiau creadigol sy'n cyfleu eich cynnig, fel ymdriniaeth, sgript, bwrdd teimladau, rhestr o’r cast, adborth neu ddogfennau ymchwil a datblygu  
  • gwybodaeth am nifer y gynulleidfa gynt a’i demograffig  
  • tystiolaeth o’r cytundeb â phartneriaid a lleoliadau
  • cadarnhau unrhyw arian neu fuddsoddiad ychwanegol
  • cynlluniau ategol fel rhai hyfforddi a datblygu
  • dogfennau eraill sy'n dangos cryfder eich cais fel cynllun am y cyfnod y tu hwnt i'r grant
Beth os oes arnaf angen cymorth hygyrchedd? 

Rydym yn cynnig gwybodaeth mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Ddarllen ac Arwyddeg. Byddwn hefyd yn ceisio ei chynnig mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg neu’r Saesneg ar gais.  

Os oes arnoch angen cymorth hygyrchedd, mae rhagor am hyn yma.

Dolenni cyflym 

Bod yn gymwys - sefydliadau

Cymorth cyllideb

Cymorth hygyrchedd

Diffinio’r celfyddydau

Proses ymgeisio 

Mae gennyf gwestiwn 

Os oes dal gennych gwestiwn ar ôl darllen yr wybodaeth yma, e-bostiwch grantiau@celf.cymru neu ffoniwch 03301 242733. 

Cymorth
Dogfen16.10.2025

Cynyrchiadau Mawr: Hawdd ei Ddeall

Dogfen16.10.2025

Cynyrchiadau Mawr: Templed Cyllideb

Dogfen16.10.2025

Cynyrchiadau Mawr: Enghraifft o’r Ffurflen Gais Ar-lein