Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma Siri Wigdel yn trafod ei phrosiect a’i thaith hyd yma.

 

Enw fy mhrosiect yw Govledh, sy’n golygu gwrando yn Iaith De Sami. Mae’n daith o wrando yn gweithio gyda gwahanol gydweithwyr: cerddorion, gwneuthurwyr ffilm a choreograffwyr o Gymru a Sapmi, gan edrych ar ieithoedd sy’n diflannu a’u cysylltiad gyda’r tir. 

 

Gyda phwy ydych chi wedi bod yn cydweithio?  

Ole-Henrik Bjørkmo Lifjell (Sapmi/Norwy) joik. Jodie Marie Warlow (Cymru) cerddoriaeth. Cai Tomos (Cymru) mentor: symudiad a choreograffi. Rino Engdal (Norwy) ffilm and ffotograffiaeth.  

Ymgynghori gyda Maritha Nielsen (Norwy) (adrodd straeon Sami i blant), Ed Dance (Cymru) (dylunio ac adeiladu) a Gull Øzger/GullBakken (Norwy) (cyngor a llygad feirniadol).  

 

Pa iaith/cymuned frodorol ydych chi wedi bod yn gwrando arni?   

Rwyf wedi bod yn gwrando ar Sapmi (tiroedd Sami ardaloedd arctic Norwy, Sweden, y Ffindir a Rwsia), yn benodol ardaloedd Sapmi Norwy, gyda ffocws ar ieithoedd De Sapmi a Gogledd Sapmi. 

 

Beth hoffech chi ei rannu am eich taith?   

Un o’r themâu sy’n codi o hyd, a dwi wedi dysgu mwy amdano drwy’r prosiect yma, yr hyd yn oed pan fydd iaith yn diflannu, ac nid yw’n cael ei siarad bellach o ddydd i ddydd, mae’r gerddoriaeth, y joik a’r adrodd straeon yn dal i oroesi ac mae pobl yn eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Dwi wedi gweld mor wir yw hyn yn Sapmi a Chymru, ble dwi wedi bod yn ymchwilio’r tebygrwydd a’r gwhaniaethau rhwng y diwylliannau, yr ieithoedd, a’u perthynas gyda’r tir.  

 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig? 

Fy ngobaith yw ein bod yn dysgu gwrando ar ieithoedd brodorol a’r bobl sy’n eu siarad ag sy’n cario/gwarchod eu traddodiadau. Dwi’n gobeithio, trwy wrando, y gallwn ddysgu gwerthfawrogi eu gwybodaeth am dir, ffyrdd o fyw mewn cytgord â phobl eraill, anifeiliaid byd natur, ac y bydd hyn rywsut yn ein harwain at ddod o hyd i gysylltiad â’r doethineb am dir a natur yr ydym wedi ei golli dros y cyfnod diweddar.  

 

Beth yw’r un wers ymarferol rydych chi wedi’i ddysgu ac am rannu ag artistiaid eraill fyddai’n gweithio gydag ieithoedd brodorol?   

Dwi wedi dysgu bod y broses o wrando yn cymryd amser wrth weithio gydag ieithoedd brodorol, a bod angen amynedd. Dwi wedi canfod nad oes diben gwthio na rhuthro pobl. Bydd yr atebion yn dod pan fydd yr amser yn iawn. Yn y celfyddydau, rydym yn aml yn canolbwyntio ar nodau ac wedi arfer gweithio’n gyflym iawn. Mae gweithio gydag ieithoedd a diwylliannau brodorol yn groes i hyn. Rhaid inni ddysgu gweithio ar gyflymder mwy naturiol a dod o hyd i ffordd organig o weithio.