Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd Brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma Iola Ynyr yn trafod ei phrosiect a’i thaith hyd yma.
Bwriad gwreiddiol Coflaid oedd anelu i wrando ar gymunedau Brodorol o Ganada am eu profiad o ddibyniaeth. Fel alcoholig mewn adferiad, rydw i'n deall yr elfen o gywilydd a thabŵ sydd yn perthyn i gyfaddef dibyniaeth ar alcohol ac yn fwy fyth o berthyn i ddiwylliant lleiafrifol.
Wedi gosod y nod hwn,'rwyf dal yn y broses o ffurfio cyswllt. Roeddwn wedi cael gwahoddiad i fynychu Gŵyl Gerddorol Frodorol yn Nhoronto llynedd i gynrychioli Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a chael cyfle i rwydweithio â chysylltiadau posib, ond yn anffodus, oherwydd fy nedfryd am yfed a gyrru dan ddylanwad alcohol, o dan reolau Llywodraeth Canada, nid oedd yn bosib i mi fynedu’r wlad.
Rwyf wedi bod yn trio ffyrdd amgenach o gysylltu, yn meddwl fy mod o fewn cyrraedd trwy gyswllt artistiaid eraill ond yn baglu wrth y lan gydag unigolion yn cynghori fod hyn yn fan tramgwydd i lunio cyswllt. Fod canolbwyntio ar ddibyniaeth fel man cychwyn yn amharchus, yn ennyn amheuaeth gan gymunedau sydd eisoes wedi profi gymaint o gamdriniaeth gan bobl wyn. Nid ydi’r cysylltiadau hyd braich am drafod gyda'u cyswllt Brodorol hwy rhag tarfu.
Beth hoffech chi ei rannu am eich taith?
Rwyf wedi dysgu gwers allweddol bwysig yn y broses o Wrando. Gwrando sy’n dod yn gyntaf, cyswllt ac yna pan fydd parch wedi’i sefydlu mae modd ymchwilio i’r posibilrwydd o drafod materion sensitif.
Does gen i ddim yr hawl i fynnu arwain y drafodaeth i’m dibenion fy hun ond yn hytrach i wrando ar yr hyn sy’n cael ei rannu a dechrau proses greadigol ar ôl hynny. Diolch i Gronfa Gwrando am fy ngalluogi i ailystyried, myfyrio ac agor fy meddwl nid i fy anghenion fy hun ond i glywed mai ar delerau’r gymuned honno y mae’r daith tuag at ennyn ymddiriedaeth a gallu ‘clywed’ y llais cynhenid.
Beth yw eich dyheadau ar gyfer degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig?
Y caiff pob unigolyn yng nghymunedau mawr a Brodorol y byd ddeall bod ieithoedd 'cuddiedig' y byd, y rhai sydd wedi peidio bod bellach, y rhai sydd wedi cadw eu gafael trwy gelfyddyd a'r rhai sydd o fewn perygl yn cario mwy nag iaith ond hanes gorthrwm sydd angen ei leisio, ei glywed a'i barchu. Fod ieithoedd fel unigolion yn derbyn braint heb sylweddoli hynny ac yn dioddef gorthrwm heb gael rhyddid i ddychmygu mwy i'w hunain. Fod y byd modern sydd yn dinistrio ei hun ar garlam angen yr ieithoedd Brodorol a'u diwylliannau i ddarganfod eu llwybr yn ôl at fyw yn ofalgar, yn heddychlon gan ddangos parch at y ddaear ddim yn unig at heddiw ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Beth yw’r un wers ymarferol rydych chi wedi’i ddysgu ac am rannu ag artistiaid eraill fyddai’n gweithio gydag ieithoedd Brodorol?
Rydw i wedi dysgu fod gormes y cymunedau Brodorol yn golygu na allwn ni gael mynediad i'w clywed gwaeth pa mor 'ofalgar' neu 'ystyriol' ydym ni fel unigolion. Mai cymunedau'r ieithoedd Brodorol hynny sydd â'r deallusrwydd a'r hawl i ddewis beth a rennir ac a ddatgelir a'n anrhydedd ni i'w clywed, pan fo'n briodol, yr hyn sydd yn cael ei yngan.