Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma Georgina Biggs yn trafod ei phrosiect a’i thaith hyd yma.

 

Bu'r prosiect yn archwilio iselder drwy weithio mewn pantiau daearyddol yn Sgarp Llangadog. Drwy gydweithio’n rhyngwladol â safbwyntiau gorllewinol a brodorol, roeddem am ddeall swyddogaeth natur wrth fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl. 

  

Ar ba iaith/cymuned frodorol y buoch yn gwrando? 

Pobl Muisca o Golombia. 

 

Gyda phwy ydych chi wedi bod yn cydweithio?   

Javier Hernando Peralta Gonzalez (Bogota, Colombia) - canwr/cyfansoddwr caneuon â nam ar eu golwg a’n seicolegydd ymddygiad sy'n rhedeg y sylfaen Life Without Barriers i gefnogi pobl anabl a ffoaduriaid yn Bogota.  Anthar Kharana (Bogota, Colombia) - Sylfaenydd Sefydliad Tambora, cerddor, iachawr traddodiadol, therapydd iachau sain cymwysiedig. 

 

Beth hoffech chi ei rannu am eich taith? 

Mae'r byd natur yn gwrando ac mae’n gallu bod yn gymorth ac arweiniad ar adegau anodd. Mae cysylltu â rhywbeth mwy na ni a theimlo'n rhan o we fywyd yn fodd inni berthyn mewn byd tangnefeddus. 

 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig?  

Nod y prosiect oedd dechrau rhywbeth llawer mwy sef datblygu cyd-ddealltwriaeth rhwng diwylliannau gwahanol. Mae llawer i'w ddysgu am y berthynas rhwng natur ac iechyd meddwl fel y mae pobl Muisca yn ei ddeall. Byddai’r gwaith yn gallu, gyda gwybodaeth feddygol Javier a phrofiad bywyd Gina, wneud cyfraniad mawr at ein  syniadau am les meddyliol.  

Mae sawl peth y byddwn yn ei newid o weithio gyda'r un partneriaid eto a byddem yn croesawu'r cyfle i’w wneud eto. Amser yw’r prif beth dan sylw yma.  Fel yr eglurodd Anthar yn ei werthusiad:  

"Mae eisiau rhagor o amser ar y math yma o brosiect dwys. Wrth inni ddatblygu, daeth pethau newydd a diddorol i’r fei. Byddwn wrth fy modd yn cael rhagor o amser i’w harchwilio’n well."  

Rydym hefyd am fynd yn ddyfnach gyda'r bobl frodorol wrth gynllunio'r prosiect ac egluro ei bwrpas. Roedd yn rhaid dibynnu ar Anthar fel porthor i’r bobl Muisca ond mae angen inni feddwl am sut y gallem ehangu'r gwaith yn y dyfodol. Ers dechrau'r prosiect, rydym yn ymgyfarwyddo â Chaniatâd Rhydd, Blaenorol a Gwybodus o ran gweithio gyda phobl frodorol ac wedi trafod hyn yn ein cyfarfod olaf. Mae angen i hyn fod wrth wraidd prosiectau’r dyfodol ond hefyd i'n gwaith gydag artistiaid anabl. Mae’n faes i’w archwilio yn y dyfodol.  

  

Beth yw un wers ymarferol rydych chi wedi'i ddysgu ac eisiau ei rhannu ag artistiaid eraill am weithio gydag ieithoedd brodorol?  

Roeddem wedi dysgu o'n prosiect blaenorol gyda'r un partneriaid pa mor gymhleth oedd gweithio ar draws Sbaeneg/Saesneg/Cymraeg, parthau amser a thrwy gyfieithu ar y pryd ar Sŵm. Mae’n rhoi haenen arall o gymhlethdod ac yn gofyn am ragor o amser.  

Mae gweithio gyda siaradwyr brodorol yn fwy cymhleth byth ond hefyd yn gyfoethocach. Roedd angen rhagor o amser a chysylltiadau uniongyrchol i dreiddio’n ddyfnach i'r gwaith. Ond mae hyn yn oed y braidd gyffwrdd yma’n dangos cymaint sydd i’w ddysgu. Mae amser yn allweddol - i wrando, deall a chreu cysylltiadau.  

Roedd angen bod yn hyblyg hefyd wrth weithio gyda dau artist anabl yr oedd eu hiechyd yn amrywio drwy'r prosiect. Ar ôl pob mambeadero, roedd cyfarfod Sŵm i drafod y gwersi o'r sgyrsiau a'n cynlluniau ar gyfer y sesiwn nesaf. Gohiriwyd un o'r sesiynau hyn oherwydd heriau iechyd Gina, ac un arall oherwydd apwyntiad ysbyty Javier. Roedd hyn yn anodd ei reoli mewn sefyllfa lle roedd gwahaniaeth amser o 6 awr a phawb â’u hamserlen bersonol.  

Rhaid cynllunio prosiectau’r dyfodol o amgylch natur anrhagweladwy byw gydag anabledd a chyfathrebu hyn yn gliriach i reoli disgwyliadau a rhoi cyfle i gael cydsyniad gwybodus.