Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma Gareth Bonello yn trafod ei brosiect a’i daith hyd yma. 

 

Dwi wedi bod yn cydweithio â'r bardd a'r perfformiwr Khasi, Lapdiang Syiem, i gyfansoddi deunydd gweledol, cerddi a cherddoriaeth newydd yn seiliedig ar ein trafodaethau am hunaniaeth Gymreig a Khasi.

 

Pa iaith/cymuned frodorol ydych chi wedi bod yn gwrando arni? 

Dwi wedi bod yn gwrando ar y gymuned Khasi yng ngogledd-ddwyrain India. 

 

Gyda phwy ydych chi wedi bod yn cydweithio?  

Dwi wedi bod yn cydweithio gyda'r bardd a pherfformwraig Khasi Lapdiang Syiem i gyfansoddi deunydd gweledol, cerddi a cherddoriaeth newydd wedi seilio ar ein trafodaethau ar hunaniaeth Gymreig a Khasi. 

 

Beth hoffech chi ei rannu am eich taith?    

Dwi wedi dysgu ei bod yn bwysig sefydlu deialog barhaol a hirdymor er mwyn meithrin perthynas greadigol a phersonol y gall pawb ymddiried ynddi. 

 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig? 

Fy ngobaith mawr ar gyfer Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig yw ei bod yn cynyddu gweledigrwydd a dealltwriaeth am ieithoedd a diwylliannau brodorol ar draws y Byd. Rwy’n gobeithio bydd hyn yn arwain at ddeddfu i warchod dros ieithoedd brodorol a’r cymunedau sy’n eu cadw.  

Gobeithiaf am ddiwedd polisïau gorthrymus sy’n dal i weithredu gan lywodraethau ar hyd a lled y byd, sy’n gwthio neu’n gorfodi pobl o gymunedau brodorol a lleiafrifol i golli eu hieithoedd.  

Gobeithiaf hefyd i’r ddegawd arwain at well cysylltu â chydlynu rhwng cymunedau ieithyddol lleiafrifol ar bob lefel. Mae cymaint gallwn ddysgu wrth ein gilydd ac mae angen mwy o gyfnewid rhwng unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau cenedlaethol i rannu ymarferion da ac i gefnogi ein gilydd wrth i ni frwydro dros gydnabyddiaeth a pharch tuag at ein hieithoedd a’n diwylliannau unigryw.  

Hoffwn weld mwy o gydweithio ym meysydd creadigol fel sydd yn digwydd yn y prosiect hwn, ond hefyd mewn meysydd eraill megis addysg, cyfiawnder cymdeithasol a gwyddoniaeth. Yn aml, mae gan bobl frodorol dealltwriaeth flaengar a drylwyr o eu cynefin ac mae’n holl bwysig ein bod yn gwrando ar eu lleisiau wrth i ni frwydro yn erbyn effeithiau byd-eang yr argyfwng hinsawdd. 

 

Beth yw’r un wers ymarferol rydych chi wedi’i ddysgu ac am rannu ag artistiaid eraill fyddai’n gweithio gydag ieithoedd brodorol? 

Gareth Bonello:

Rwy’n credu bod hi’n hynod bwysig i sefydlu perthynas personol cadarn wrth weithio gyda’ch gilydd ac mae angen bod yn amyneddgar wrth wneud hyn. Mae angen amser i ddod i nabod eich gilydd fel artistiaid ac unigolion er mwyn creu awyrgylch cefnogol a ddiogel er mwyn cyd-greu. Roeddwn yn falch am y cyfle i weithio gyda Lapdiang heb y pwysau o orfod creu gwaith gorffenedig, gan ganiatáu i ni drafod a chreu ar ein hamserlen ein hunain. Rwy’n hyderus fydd y dull hwn o weithio yn arwain at gynnyrch creadigol o safon uchel a pherthnasau gwell rhwng ein cymunedau hefyd.  

Wrth ddechrau gweithio gyda rhywun newydd, yn enwedig o ddiwylliant arall, y deialog a’r broses sy’n hollbwysig. Wrth drafod, ymarfer a chreu gyda’n gilydd rydym yn adeiladu perthynas hirdymor wedi’i seilio ar barch a chreadigrwydd, ac yn agor y ffordd i ehangu’r cysylltiad trwy gynnwys artistiaid eraill o fewn ein cymunedau hefyd. Yn aml, mae gwaith creadigol rhyng-ddiwyllianol yn ffocysu ar greu cynnyrch yn weddol gyflym er mwyn ei werthu i gynulleidfaoedd sy’n bennaf yn Ewrop a Gogledd America. Yn aml, nid ydy’r dull yma o weithio yn gwneud lles i’r artistiaid brodorol nac i’w cymunedau, ac mae’n eu gadael yn agored i niwed ac ecsploetiaeth gan gyfalafwyr Gorllewinol. Mae rhaid i artistiaid o’r Gorllewin bod yn ymwybodol o’r anghydbwysedd yma wrth weithio gydag artistiaid o gymunedau brodorol, ac ymdrechu gyda’i chydweithwyr i leihau effeithiau negyddol y strwythurau pŵer a dylanwad sy’n gweithredu ar draws y byd. 

Lapdiang Syiem:

Un wers yw bod cyfathrebu yn allweddol a bod yn rhaid cyfathrebu y tu hwnt i’r lefel rydych yn ei chael yn gyfforddus fel arfer. Er enghraifft, peidiwch â defnyddio’r gair Saesneg cyntaf sy’n dod i’ch meddwl i gyfieithu'r hyn rydych yn ei olygu. Ystyriwch yn hytrach yr ystyr ddyfnach a dod o hyd i'r ystyr mewn iaith heblaw'r un arferol sydd rhyngoch (yn ein hachos ni, Saesneg). Rhowch amser i'r broses. Gyda'm cydweithio â Gareth, roeddem wedi dechrau yn ddigon cynnar nes bod y daith greadigol yn teimlo'n organig a rhwydd iawn.  

Drwy’r broses greadigol roeddem yn ymddiried yn ein gilydd. Roedd ein sgyrsiau am ein bywyd a'r digwyddiadau o’n cwmpas ond y tu hwnt i’r prosiect yn gymorth inni ddeall sut roeddem yn gweithio fel artistiaid.  

Felly, cyfathrebu oedd bob amser yn allweddol gan rannu syniadau heb ruthro tuag at gynhyrchu rhywbeth gorffenedig.

 

Dyma ffilm a gynhyrchwyd yn rhan o'r prosiect:

GWRANDO / SNGAP

Lapdiang Syiem & Gareth Bonello