Kobe • Osaka | 01-15 Medi 2025
Gan ddatblygu ar rwydweithiau a sefydlwyd a gwaith ymchwil a wnaed yn ystod cyfnod preswyl gyda Beppu Projects, Oita, yn 2020, bydd yr artistiaid o Gymru, Freya Dooley a Clare Charles, yn teithio i Kobe. Yno, dros bythefnos, byddan nhw’n treulio cyfnod preswyl arbennig yn AiRK Kobe, a hynny er mwyn datblygu gweithiau sain newydd a darllediad radio ar-lein gyda phwyslais ar arferion gwrando cymdeithasol a thorfol.
Bydd Freya a Clare yn ymweld ag artistiaid, cerddorion a sefydliadau yn Kobe ac Osaka, gan gyflwyno darllediad ar-lein yng ngaeaf 2025, a hwnnw’n cynnwys cyfraniadau gan artistiaid o Gymru a Japan. Nod y prosiect hwn yw meithrin cysylltiadau traws-ddiwylliannol drwy sain, a datblygu platfform ar gyfer deialog a gwrando torfol. Bydd y platfform yn galluogi artistiaid yn y naill wlad a’r llall i rannu arferion, syniadau a phrosesau creadigol. Bydd yr archif a gaiff ei chreu hefyd yn cael ei chynnal ar-lein gan rwydweithiau o bartneriaid yng Nghymru a Japan.


神戸・大阪|2025年9月1日〜15日
2020年、大分のBeppu Projectsでの滞在制作で培ったネットワークとリサーチを基盤に、ウェールズを拠点とするアーティスト、フレイヤ・ドゥーリーとクレア・チャールズが神戸のAiRKにて2週間の特別レジデンシーを行います。二人は、社会的かつ協働的なリスニングの実践に焦点をあて、新たなサウンド作品とオンライン・ラジオ放送の制作に取り組みます。
神戸・大阪のアーティスト、音楽家、団体を訪問し、ウェールズと日本のアーティスト双方の寄稿を交えたオンライン放送を2025年冬に配信予定です。本プロジェクトは、音を介した異文化交流を促進し、対話と共同的なリスニングのための新たなプラットフォームを構築することを目的としています。成果として生まれるアーカイブは、両国のパートナーネットワークによりオンラインで公開されます。