Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd Brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma Dylan Huw yn trafod ei brosiect a’i daith hyd yma. 

 

Mae’r rhaglen Gwrando wedi cefnogi fy ymchwil mewn i gysylltiadau rhwng artistiaid cwiar sy’n gweithio trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg a’r Gymraeg. Mae fy sgyrsiau ac ymchwil desg dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cychwyn prosiect curadurol hirdymor sy’n ystyried creu geirfa cwiar mewn ac ar draws cyd-destunau ieithyddol lleiafrifol fel strategaeth greadigol sy’n ymwrthod a’r hanfodion yr ydym yn aml dan bwysau i’w cofleidio wrth greu o bersbectif ‘lleiafrifol’.  

 

Pa iaith/cymuned Frodorol ydych chi wedi bod yn gwrando arni?  

Artistiaid cwiar sy’n gweithio drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg a’r Gymraeg.  

 

Gyda phwy ydych chi wedi bod yn cydweithio? 

Rwyf wedi cynnal trafodaeth gydag ymarferwyr cwiar yn Iwerddon - awduron, curaduron, cerflunwyr, arlunwyr, ymchwilwyr, perfformwyr - sy’n defnyddio’r iaith mewn ffyrdd cyfloes gyda hunanymwybyddiaeth. Bues i’n lwcus ar ddechrau’r ymchwil i ymuno â dirprwyaeth o Gymru i Ddulyn dros Ŵyl Dewi 2023, a chael fy nghyflwyno i gasgliad cwiar Gwyddeleg AerachAiteachGaelach, sy’n cynnal gweithgareddau a pherfformiadau amrywiol yn Nulyn ran fwyaf. 

Cefais ddeialog gychwynnol gyfoethog iawn gyda rhai o aelodau’r grŵp yn ogystal â’r perfformiwr-goreograffydd Fearghus Ó Conchúir, sydd wedi siarad Gwyddeleg trwy gydol ei fywyd a threulio amser yng Nghymru fel cyfarwyddwr y Cwmni Dawns Cenedlaethol. Cymerodd y broses o ffeindio artistiaid cwiar Gwyddeleg i’w siarad â nhw amser hirach na’r disgwyl, gan fod gan bawb siaradais â nhw argymhellion o bobl fyddai’n diddori yn yr ymchwil a’r syniadau dwi’n archwilio. 

 

Beth hoffech chi ei rannu am eich taith?  

Mewn paralel â datblygiad cychwynnol y corff hwn o ymchwil guradurol gyda chefnogaeth rhaglen Gwrando, dwi wedi bod yn ceisio canfod ffyrdd o ddatblygu strwythurau hirdymor ar gyfer ymchwil a deialog yn fy mhractis ehangach fel sgwennwr-guradur llawrydd sydd â diddordeb cydnabod a chanoli fy safbwynt Cymraeg a cwiar gyda phob dim dwi’n ei wneud (hyd yn oed - yn enwedig - wrth weithio tu hwnt i Gymru ac ar waith sydd ddim yn ymwneud ag iaith na rhywioldeb mewn ffyrdd amlwg). Mae hyn yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r prosiect hwn, ond mae treulio’r cyfnod hwn yn ystyried yn araf fy nheimladau a fy nghredoau i ynghylch y ffyrdd gall plethiadau hunaniaethau ‘lleiafrifol’ o fathau gwahanol gynhyrchu cysylltiadau a chydweithrediadau sy’n goresgyn ffiniau arferol wedi bod yn ddadlennol dros ben. 

 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig?  

Ystyried perthynas y corff hwn o waith â chwestiynau ehangach am y ffyrdd y mae (neu y gallai) artistiaid yng Nghymru weithio gyda chymunedau ieithoedd Brodorol, a’r rôl y gall artistiaid, casgliadau a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru chwarae yn Negawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig.  

 

Beth yw’r un wers ymarferol rydych chi wedi’i ddysgu ac am rannu ag artistiaid eraill fyddai’n gweithio gydag ieithoedd Brodorol?  

Trwy’r rhaglen, dwi wedi dysgu canolbwyntio ar benodolrwydd profiad pob unigolyn o’r cyd-destun (ieithyddol neu fel arall) maen nhw’n gweithio ynddo, a pheidio â chymryd unrhyw safbwynt fel symbol neu ddirprwy o’u holl ddiwylliant.