Cydlynwyr y celfyddydau ac iechyd – Drwy ein rhaglen genedlaethol i feithrin gallu, rydym wedi cyflwyno a chyd-ariannu swyddi cydlynwyr y celfyddydau ac iechyd ym mhob un o'r saith Bwrdd Iechyd yn ogystal ag ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae'r Cydlynwyr yn gweithio yn y GIG ac yn deall blaenoriaethau iechyd cyfredol ac yn hwyluso prosiectau creadigol i fynd i'r afael â nhw, gan ymgorffori cyfleoedd creadigol mewn gwasanaethau gofal iechyd. Darllenwch werthusiad allanol o Raglen Meithrin Gallu Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd
 
Y Celfyddydau a’r Meddwl – Mae'r rhaglen genedlaethol hon yn archwilio sut gall cymryd rhan yn y celfyddydau gefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae'n bartneriaeth rhwng Sefydliad Baring, Cyngor Celfyddydau Cymru a phob un o’r saith bwrdd iechyd. Ei nod yw gwreiddio gweithgareddau celfyddydol gan artistiaid a phartneriaid lleol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru wedi datblygu ‘fframwaith llwyddiant’ ar y cyd sy’n ystyried y ffactorau sydd eu hangen i dyfu a chynnal y Celfyddydau Iechyd a Lles o fewn lleoliadau’r GIG. Caiff ei ddefnyddio i helpu i olrhain cynnydd ym maes y celfyddydau ac iechyd ar draws y GIG yng Nghymru.

Cwtsh Creadigol -  Gwefan ddwyieithog sy’n cynnwys gweithgareddau creadigol byr, rhad ac am ddim, gan rai o artistiaid blaenllaw Cymru. Maen nhw wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi lles gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mwy o wybodaeth fan hyn

Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil, Pobl – Mae'r bartneriaeth ymchwil ac arloesedd hon rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Nesta a Lab Prifysgol Caerdydd yn archwilio sut gallwn gynhyrchu, tyfu a dysgu am arloesedd creadigol sy'n cefnogi iechyd a lles pobl. Daeth y bartneriaeth ymchwil ac arloesedd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Nesta a Lab Prifysgol Caerdydd i ben ym mis Mai 2022. Darllenwch am ei gwersi a’i hargymhellion fan hyn.