Rydym wedi ymrwymo i adeiladu sector y celfyddydau ac iechyd sy’n:   
•    Cydlynus  
Wedi’i ategu gan gydraddoldeb ac sy’n gweithio mewn partneriaeth rhwng y sectorau celfyddydol ac iechyd/gofal cymdeithasol.  
•    Sefydlog  
Mae’r Celfyddydau ac Iechyd yn brif ffrwd, wedi’i ariannu’n iawn ac yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth iechyd.
•    Dysgu’n barhaus 
Rhannu a dysgu o brofiad ac arferion da yw’r norm.
•    Arloesol  
Mae lle i arloesi, profi syniadau a ffyrdd newydd o weithio.
•    Hygyrch  
Ceir nifer o lwybrau i bobl gael mynediad at ymyriadau celfyddydol ac iechyd.
•    Ffocws  
Rydym yn cydweithio ar draws Cymru ar gydflaenoriaethau.
•    Cynrychioliadol  
Mae'r sector yn gynhwysol ac mae pobl sydd â phrofiadau bywyd wastad yn ganolog.
Ein blaenoriaethau yw: 
•    Cefnogi gwell iechyd meddwl 
Prosiectau creadigol sydd o fudd i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl gyda’r nod o atal unigrwydd neu atgyfeirio pobl at weithgareddau creadigol i gefnogi lles (y celfyddydau ar bresgripsiwn). 
•    Gwella cysylltiadau gyda natur
Prosiectau creadigol sy’n ceisio gwella iechyd a lles pobl drwy gynyddu eu cysylltiad â byd natur drwy’r celfyddydau.
•    Gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd 
Prosiectau creadigol a gynlluniwyd i ddod â manteision iechyd a lles i gymunedau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio'n andwyol gan dlodi, ymyleiddio neu amddifadedd.
•    Gwella iechyd a lles corfforol 
Hyrwyddo prosiectau celfyddydol sy'n cefnogi gwell iechyd corfforol. 
•    Buddsoddi yn lles y gweithlu 
Cefnogi lles artistiaid a gweithlu ehangach y Celfyddydau yn ogystal â chydweithwyr sy'n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol.