Wedi’i lywio gan nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac ymgorffori ei phum ffordd o weithio, rydym wedi meithrin partneriaethau arloesol ac ystyrlon gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol blaenllaw yng Nghymru a thu hwnt. 
 

Mae ein dull gweithredu yn un o gydweithio, cyd-gynhyrchu a chyd-berchnogi. Gyda'n gilydd, rydym yn rhannu cred yng ngrym y celfyddydau i wella iechyd a lles pobl Cymru.

Cydffederasiwn GIG Cymru
Cydffederasiwn GIG Cymru yw’r unig gorff aelodaeth cenedlaethol sy'n cynrychioli holl sefydliadau GIG Cymru. Mae Cydffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi llofnodi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth i godi ymwybyddiaeth o'r manteision y gall y celfyddydau eu cael ar iechyd a lles pobl ac i wreiddio mentrau ym maes y celfyddydau ac iechyd ar draws GIG Cymru. Fel rhan o'r memorandwm, mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn cynghori ar ymgysylltiad a blaenoriaethau'r GIG i sicrhau bod ein rhaglenni celfyddydau ac iechyd yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.

Sefydliad Baring
Mae'r sefydliad annibynnol hwn yn diogelu ac yn hyrwyddo hawliau dynol a chynhwysiant. Ers 2020, mae Sefydliad Baring yn canolbwyntio ei raglen Gelfyddydol ar gyfleoedd creadigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Yn dilyn ein cydweithio llwyddiannus ar cARTrefu, prosiect y celfyddydau mewn cartrefi gofal, rydym wedi cydariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau ac iechyd meddwl. Mae'r bartneriaeth hon yn fodd i ni alluogi byrddau iechyd yng Nghymru i weithio gydag artistiaid a sefydliadau celfyddydol i ddod o hyd i ffyrdd o wella bywyd pobl â chyflyrau iechyd meddwl.

Byrddau Iechyd Cymru
Mae saith bwrdd iechyd a thair ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru (a restrir isod) yn chwarae rhan hanfodol a strategol yn ein holl waith ym maes y celfyddydau ac iechyd ledled y wlad. Mae pob un yn ymwneud fwyfwy ag archwilio sut gall y celfyddydau a chreadigrwydd gefnogi a gwella iechyd a lles eu cleifion, eu cymunedau a'u staff fel rhan o becyn gofal cyfannol, gydag o leiaf un swydd cydlynydd ym maes y celfyddydau ac iechyd ym mhob un o'r saith bwrdd a ariennir gan ein rhaglen meithrin gallu.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gorff GIG ac yn sefydliad iechyd cyhoeddus i Gymru. Mae'n chwarae rhan bwysig wrth ysgogi gwelliant mewn iechyd a lles ein pobl, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru  Mae twf cyflym Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru yn sbarduno cynnydd celfyddydau ac iechyd Cymru ar lawr gwlad drwy ddarparu hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio a rhannu astudiaethau achos ac arferion gorau ledled y wlad. Mae'r rhwydwaith yn ehangu'n gyflym ac yn ychwanegu gwerth at ein gwaith ym maes y celfyddydau ac iechyd drwy ddod ag ymarferwyr y celfyddydau, iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i rannu gwybodaeth, gwersi a syniadau a fydd yn meithrin hyder a gallu ar draws y sector. 

Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn sefydliad sy'n gweithio gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a sefydliadau gofal a chymorth i arwain gwelliant ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o'r manteision y gall y celfyddydau eu cael ar iechyd a lles pobl ac i wreiddio mentrau ym maes y celfyddydau ac iechyd ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Nesta Cymru
Nesta yw asiantaeth arloesedd y DU er budd cymdeithasol. Un o'i feysydd cenhadol yw cynyddu'r nifer cyfartalog o flynyddoedd iach o fywyd ym Mhrydain wrth gau’r bwlch anghydraddoldebau iechyd. Mae Nesta Cymru yn cydariannu prosiectau arloesi ym maes y celfyddydau ac iechyd gyda ni ers sawl blwyddyn, gan weithredu’n aml fel ein partner arloesi arweiniol.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ymroddedig i drawsnewid y gweithlu ar gyfer Cymru iachach. Mae gan yr Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru rôl flaenllaw ym maes addysg, hyfforddiant, datblygiad a llywio gweithlu gofal iechyd Cymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru. Rydym wedi cefnogi nifer o brosiectau Addysg a Gwella Iechyd Cymru a gynlluniwyd i gefnogi iechyd a lles gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru.