Roedd Ffeindio’r Maendy yn brosiect a oedd yn ceisio adfywio Casnewydd drwy ganolbwyntio ar ba mor hyfyw a chynaliadwy oedd y gymuned leol. Bwriad rhaglen o weithgarwch y prosiect oedd dod â chydlyniant a gweithgarwch amrywiol i ardal y Maendy yng Nghasnewydd. Roedd y prosiect yn rhan o raglen fwy o weithgareddau sy’n cael eu cynnal gan Maindee Unlimited. Roedd y rhaglen hon yn cynnwys: darparu cronfa wedi’i rheoli’n lleol ar gyfer ymyriadau ar raddfa fach; prosiect cyfathrebu ar gyfer pobl ifanc; ailddatblygu’r llyfrgell leol sy’n eiddo i’r gymuned; a chreu mapiau newydd go iawn a throsiadol i gyfarwyddo gwaith ymgysylltu ehangach y gymuned.
Sefydliad arweiniol: Maindee Unlimited
Pwy arall oedd yn rhan o hyn? Cymdeithas Gŵyl y Maendy, Grŵp Gweithredu’r Maendy, Charter Housing, Cyngor Plwyf y Maendy, Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru, Cynefin y Maendy, Clwstwr Canolog Cymunedau yn Gyntaf Casnewydd, Tîm Datblygu’r Celfyddydau Byw Casnewydd, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Tŷ Cymunedol Heol Eton, Canolfa CREW Adfywio Cymru
Lleoliad: Y Maendy, Casnewydd
Roedd y prosiect yn ceisio cyflawni’r canlynol:
• Gwella’r synnwyr o hunaniaeth a lle
• Datblygu’r ysbryd cymunedol
• Creu strydoedd a mannau cyhoeddus mwy deniadol
• Cefnogi busnesau manwerthu micro
• Cefnogi’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol
• Datblygu mwy o swyddi a sgiliau.