Roedd y cywaith creadigol hwn yn ceisio creu a phrofi ffyrdd newydd ac arloesol o weithio yn Hwlffordd. Gan geisio dod â’r gymuned leol ynghyd gan ddefnyddio prosiectau celfyddydol cydweithiol, nod y prosiect oedd cyflwyno llais creadigol Hwlffordd i’r broses o gynllunio, dylunio ac adfywio’r ardal

Rhan ganolog y prosiect oedd datblygu rhaglen o waith comisiwn safle-benodol sy’n cynnwys y gymdeithas. Roedd y rhain yn dod â’r celfyddydau, pensaernïaeth a’r gymuned leol ynghyd, ac yn archwilio cyfleoedd i wella’r amgylchedd adeiledig a chreu cyswllt o’r newydd rhwng y dref â’i hasedau diwylliannol ac amgylcheddol.

Partner Arweiniol: Planed 
Pwy arall oedd yn rhan o hyn? Spacetocreate, Penseiri iDeA, Cyngor Sir Penfro, Pontio Hwlffordd  
Lleoliad: Hwlffordd

Mae Cydlifiad yn rhaglen dair blynedd o brosiectau arbrofol a gwaith comisiwn gan artistiaid. Cafodd ei dylunio i herio barn pobl ar yr amgylchedd lleol a datblygu eu syniad o sut beth all y dre fod. Sefydlodd y prosiect labordy creadigol yng nghanol y dref a man canolog i’r rhaglen, gan gynnal gweithdai, arddangosfeydd, digwyddiadau, sgyrsiau a phreswyliadau.