Roedd Celfyddyd a Chrebwyll yn raglen adfywio ym Mlaenau Gwent oedd yn canolbwyntio ar gymdogaethau sy'n rhan o stoc tai helaeth Tai Cymunedol Tai Calon - y landlord cymdeithasol mwyaf yn y rhanbarth.
Nôd y prosiect oedd cyflwyno chelfyddydau cymunedol ac ymgysylltu creadigol i gyfres o brosiectau tai cymdeithasol ym Mlaenau Gwent. Anelodd y prosiect i newid diwylliant Tai Calon fel sefydliad, a cheisio sefydlu model o arfer da ar gyfer integreiddio ymgysylltu creadigol gyda gwaith cymdeithasau tai cymunedol.
Sefydliad arweiniol: Tai Calon Community Housing
Pwy arall oedd yn rhan o hyn? Head4Arts ac Aneurin Leisure
Lleoliad: Blaenau Gwent
Bwriad y prosiect oedd helpu Tai Calon i ffurfio dulliau mwy strategol o adfywio cymdogaethau - gan gyfuno'r defnydd o gelfyddydau cymunedol a dylunio creadigol o fewn amgylchfyd tai cymunedol.
Cynigodd y prosiect ddimensiwn creadigol newydd i raglen amgylcheddol Tai Calon, yn ogystal. Gwnaed hyn trwy gynnwys artistiaid yn y broses hon ar wahanol lefelau ac ar gyfer gwahanol gyfnodau, trwy breswyliadau a'r defnydd o raglen artistig.
Nodau’r prosiect oedd:
- Integreiddio celfyddydau cymunedol yn y rhaglen adfywio i wneud y broses a chanlyniadau adnewyddu yn fwy deniadol, dyfeisgar ac ystyrlon yn y tymor hir.
- Ymgorffori creadigrwydd yn fewnol fel rhan o brosesau cynllunio, dylunio a gweithredu Tai Calon.
- Annog cymunedau i feddwl yn greadigol a chymryd mwy o reolaeth dros eu hamgylchedd lleol.
- Datblygu ymdeimlad ehangach o gymuned yn y cymdogaethau hyn a chynyddu ymdeimlad o hunan-fynegiant, perchnogaeth a balchder drwy'r gwelliannau.
- Cryfhau cyfranogiad y gymuned mewn gwelliannau amgylcheddol a gwneud y mwyaf o'u cyfraniad at adnewyddu'r amgylchedd adeiledig.
- Newid canfyddiad pobl am y celfyddydau, o fewn y cymunedau a dargedir ac o fewn y sefydliad ei hun.
- Dylanwadu ar arfer ehangach sefydliadau tai cymunedol eraill a mentrau adfywio yng Nghymru.