Wedi gwaith goruchwylio ar gyfer Cymru yn Fenis yn 2013, mae hi nawr yn gweithio fel Curadur Cynorthwyol ar gyfer Cymru yn Fenis 2019, gan weithio ar lawer o brosiectau rhyngwladol yn y cyfamser. 

Ar ôl ei hamser yn goruchwylio Cymru yn Fenis yn 2013, sef ei phrofiad cyntaf o weithio'n rhyngwladol, derbyniodd Louise Wobr Jane Phillips er mwyn curadu arddangosfa yn Oriel Mission. Ochr yn ochr â hyn, cefnogodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Oriel Mission i wahodd y curadur Nathalie Anglès, cyfarwyddwr a sylfaenwr Residency Unlimited (RU) yn Ninas Efrog Newydd, i Gymru fel rhan o'n rhaglen o ymweliadau gan guraduron rhyngwladol yn 2014. Wedi hynny, gwahoddodd Nathalie Louise i fanteisio ar gyfnod preswyl o fis yn RU yn dilyn eu cyfarfod yn Abertawe. Cefnogwyd Louise i wneud hyn drwy'r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. 

‘Roedd fy amser yn Efrog Newydd yn rhoi cyfle i mi ddod ar draws ffyrdd o weithio, dialogau, cyfeiriadau, ffyrdd o ddysgu ac o gydweithio a oedd, i mi, yn wahanol. Wrth fyfyrio ar y sgyrsiau hyn, roeddwn wedyn yn gallu edrych mewn modd mwy beirniadol ar fy sefyllfa bersonol fy hun fel curadur ar ddechrau fy ngyrfa sy'n gweithio yng Nghymru / y DU / Ewrop.'

Yn ystod ei hamser yn Efrog Newydd, gwnaeth Louise nifer o gysylltiadau newydd, a arweiniodd at brosiectau rhyngwladol cyffrous eraill. Cyfarfu â'r artist Roman Štětina o'r Weriniaeth Tsiec ar ymweliad stiwdio, gan fynd ymlaen i weithio gydag ef ar gomisiwn newydd ar gyfer Caerdydd Gyfoes 2015. Cyfarfu yn ogystal â'r artist/curadur Will Owen, sy’n byw rhwng dinas Efrog Newydd a Philadelphia ac a fydd yn gydweithiwr iddi hi cyn bo hir. 

Yn 2016–17, gwnaethom lansio ein hymweliadau gan guraduron rhyngwladol, a wnaeth alluogi Louise a Sam Perry, curadur sy’n byw yng Nghymru, i wahodd Will Owen a Josefin Vargö, artist/curadur sy’n byw yn Stockholm, i deithio i Gaerdydd. Gyda'i gilydd, gwnaethant gwrdd â nifer o orielau ac artistiaid sydd wedi'u lleoli yn ne Cymru ac, wrth lapio o amgylch y sgyrsiau hyn, gwnaethant ddatblygu deialog gydweithredol fel grŵp. Wedyn, wrth weithio fel y grŵp cyfunol Case Studios, aethant ymlaen i weithio ar y prosiect 7 Common yn Flux Factory, a wnaeth archwilio, gyda chefnogaeth Pwyllgor Grantiau Celfyddydau Sweden, strategaethau artistig o fewn gwleidyddiaeth bwyd, diwylliant cymdeithasol, a chymudo ar hyd llwybr taith Trên 7 yn Ninas Efrog Newydd.

Trwy dyfu ei rhwydwaith ei hun a bod yn hael ac yn agored gyda'i chysylltiadau, mae Louise wedi gallu hwyluso perthnasau eraill er budd y sector celfyddydau yng Nghymru hefyd, fel trwy gyflwyno'r curadur Eleanor Sciccitano o Awstralia i g39 ac Artes Mundi, ac wrth gynnig cysylltiadau i artist o Ddenmarc pan oedd hi'n ymweld â Chaerdydd. 

Mae cael y cyfle i fynd i weld digwyddiadau rhyngwladol er mwyn datblygu rhwydweithiau wedi ei helpu nid yn unig gyda'i rhwydwaith rhyngwladol, ond hefyd gyda'i rhwydweithiau yn y DU a Chymru yn ogystal. Trwy ymweliad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru â Manifesta a Biennale Berlin yn 2017, cyfarfu Louise â James Harper, curadur yn Nhŷ Pawb, sef y prif sefydliad ar gyfer Cymru yn Fenis 2019. Trwy ymweliadau mwy diweddar, megis â Documenta a Phrosiect Cerfluniau Munster, a hefyd Valletta, ar gyfer cwrs mewn Curadu ac Arferion Cymdeithasol, mae Louise yn parhau i ddatblygu ei rhwydweithiau.

‘Fel bod artistiaid a churaduron yng Nghymru yn gallu datblygu a chynnal arfer creadigol, teimlaf fod gweithio'n rhyngwladol yn hanfodol. Trwy brofiad o breswyliadau, arddangosfeydd, prosiectau a hyfforddiant rhyngwladol, gallwn ennill pellter beirniadol o'n harfer, proses a chyfoedion, gan alluogi deialogau, ffyrdd o feddwl, uchelgais, ymwybyddiaeth a beirniadaeth newydd i ddod i'r amlwg. Trwy weithio'n rhyngwladol, rydym yn cael ein herio i adolygu ein safbwyntiau unigol a chyfunol o fewn arfer celf ryngwladol gyfoes, ac efallai'n bwysicaf oll, i ystyried sut rydym yn dod i berthynas â’n gilydd a'r cyfnod a'r lle rydym ynddynt. 

Rydym yn sôn yn aml am rwydweithiau a chysylltiadau, ond efallai y byddaf yn defnyddio geiriau fel cynnal, haelioni, gofal, dysgu, dwyochredd, deialog gydweithredol a chyfnewid. Byddwn i hefyd yn defnyddio'r gair cyfeillgarwch.'