Ers ei agor yn 2004 mae wedi croesawu 1.5 miliwn ymwelydd yn flynyddol. Maent yn dod i'r ganolfan am resymau amrywiol yn cynnwys mynychu sioeau West End, perfformiadau opera a digwyddiadau celfyddydol cymunedol. Mae hefyd yn 'gampws celfyddydol' ac yn darparu llety i nifer o gwmniau celfyddydol megis Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi gwneud cyfraniad mawr at ddatblygiad gwreiddiol yr adeilad, ac hefyd at y gweithgareddau sy'n parhau o hyd.