Wedi ei sefydlu yn 1986, mae Ballet Cymru wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, ond un o'r trobwyntiau mwyaf allweddol i'r cwmni oedd derbyn grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i droi hen adeilad diwydiannol yn y Tŷ Du ar gyrion Casnewydd yn stiwdio ddawns. Mae'r adeilad wedi ei leoli ar stad ddiwydiannol yr arferai tad Darius James, Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, gerdded trwyddo bob dydd ar ei ffordd i'r gwaith dur lle'r oedd yn gweithio.
O fod wedi derbyn arian yn deillio oddi wrth y Loteri Genedlaethol, mae Ballet Cymru wedi medru ehangu ei waith estyn allan gyda'r gymuned leol yn sylweddol iawn. Yn y fideo byr isod, mae Darius, a'r Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig, Amy Doughty, yn sôn am y gwaith maent yn ei wneud gydag ysgolion lleol, a'r rhaglen maent wedi ei ddatblygu ar gyfer dawnswyr ifanc o bob cwr o'r byd, sy'n dod i Gasnewydd i ymuno â rhaglen 'cyn-broffesiynol' Ballet Cymru - hefyd o fudd i'r gymuned leol.