Mae cynllun Kickstart (gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Prydain) yn cynnig arian i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16-24 oed ar Gredyd Cynhwysol sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am amser hir. Gall cyflogwyr o bob maint ymgeisio am arian tan 17 Rhagfyr 2021 sy'n cynnwys:
- 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran y cyfranogwr) am 25 awr yr wythnos am 6 mis
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr
- isafswm cyfraniadau pensiwn cofrestru awtomatig
Gall cyflogwyr ymestyn dyddiad dechrau'r swydd hyd at 31 Mawrth 2022. Cewch arian am 6 mis ar ôl i'r person ddechrau yn ei swydd.
Mae arian pellach ar gael ar gyfer hyfforddiant a chymorth fel y gall y person gael swydd yn y dyfodol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma
Mae’n gyfle unigryw i sefydliadau celfyddydol a chreadigol greu llwybrau â thâl i bobl ifanc weithio yn y sector ac elwa o'u mewnbwn.
Am ragor o wybodaeth, mae gweminar Kickstart Cymru Galwad i Weithredu yn sôn am:
- y Contract Diwylliannol
- awgrymiadau am swyddi Kickstart
- Gwaith Teg
- cyfleoedd am ddilyniant, sgiliau a hyfforddiant.
Cewch wybod sut i gofrestru gyda'r cynllun, yr adnoddau sydd ar gael a sut i weithio gyda Hyfforddwyr Swyddi i gyrraedd ymgeiswyr.
Recordiwyd y gweminar Galwad i Weithredu 3 munud cyn estyn y dyddiad cau gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Actifyddion Artistig a Chorff Dyfarnu Celfyddydau’r Brifysgol, Llundain.
Cafwyd cymorth hefyd gan y Panel Ieuenctid (Arabella Bradley; Gwernan Brooks; Chris Corish; Kiara Sullivan; Fahadi Mukulu; Nirushan Sudursan). Mae'r panel am annog cyflogwyr i sicrhau cyflog teg, cydnabod gwerth pawb a rhannu a datblygu sgiliau.
Manylion cyswllt yr Adran Gwaith a Phensiynau
Nicola Lewis, y De Ddwyrain NICOLA.LEWIS1@DWP.GOV.UK
Julie Garner, Y De-orllewin JULIE.GARNER@DWP.GOV.UK
Lucy Beaumont, y Gogledd a'r Canolbarth LUCY.BEAUMONT@DWP.GOV.UK
Gweler isod cyfle Kickstart yn Cyngor Celfyddydau Cymru: