Pwy sy'n gallu gwneud cais?
Pobl ifanc 16-24 oed, sy'n ddi-waith ac yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Siaradwch â'ch hyfforddwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Byddant yn eich cyfeirio.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd, 5yp. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofyn i'ch hyfforddwr gwaith am hyn mewn digon o bryd.
Diben y swydd
Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus sy'n datblygu ac ariannu ein celfyddydau. Rydym ni’n cynnig grantiau gydag arian a gawn gan Lywodraeth Cymru, y Loteri Genedlaethol a ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill.
Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau wrth wraidd ein bywyd a’n lles – gwlad gyffrous i fyw a gweithio ynddi ac ymweld â hi. Mae gan bob unigolyn a chymuned ledled Cymru yr hawl i brofi’r celfyddydau a chreadigrwydd.
Mae'r byd yn edrych yn wahanol iawn erbyn hyn. Gwyddom fod angen newid ein holl gelfyddydau a’n sefydliad. Mae ystadegau ariannu yn dangos bod amrywiaeth ar draws y sector yn brin.
Yn y swydd byddwch chi’n cefnogi ein Asiant er Newid yn ein cenhadaeth i drawsnewid ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd, ethnig amrywiol, fyddar ac anabl i fwynhau a datblygu’r celfyddydau a chymryd rhan a gweithio ynddynt.
Mae'r Asiant er Newid yn swydd newydd, ddeinamig: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/asiant-er-newid-0 Yn bennaf byddwch chi’n cynnig cymorth gweinyddol iddo. Ond byddwch chi hefyd yn cael cyfle cyffrous i gyfrannu at y newid ehangach y mae’n ei arwain. Bydd eich barn yn bwysig i lunio’r gwaith o newid y Cyngor a’r sector. Croesawn ddiddordeb mewn cydraddoldeb, hawliau dynol, cynwysoldeb, tegwch a chreadigrwydd ac efallai mai eich profiad personol sy’n bwydo eich diddordeb. Byddwch chi’n awyddus i ddysgu rhagor am y maes a chymryd rhan mewn cyfleoedd i newid pethau.
Gweithiwch ochr yn ochr â'n Hasiant er Newid, ein tîm Adnoddau Dynol a chydweithwyr yn y Cyngor, y sector celfyddydol a’n cymunedau. Mae’n gyfle pwysig i ddysgu am gelfyddydau Cymru a sbarduno eich gyrfa yn y sector. Cewch arweiniad ac anogaeth oddi wrth ein Asiant er Newid ond cewch eich rheoli hefyd gan ein Pennaeth Adnoddau Dynol. Gallwn gynnig cyfle ichi fynd ar ystod o gyrsiau hyfforddiant a chewch eich cefnogi i ddatblygu sgiliau fel rhan o’ch gwaith.
Mewn sefydliad dwyieithog y byddwch chi’n gweithio. Gallwch weithio unrhyw le yng Nghymru – mae’n bosibl gweithio o bell neu yn swyddfa Caerdydd pan fo honno’n agor. Disgwyliwn eich gweld wyneb yn wyneb pan fo amgylchiadau'n caniatáu.
Cyflog:
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ychwanegu at gyfraniad isafswm cyflog cenedlaethol yr Adran Gwaith a Phensiynau i £13,851 y flwyddyn (ar sail 25 awr yr wythnos). Mae hyn yn cyfateb i £20,500 y flwyddyn ar gyfer oriau llawn-amser.
Cyfraniadau’r Adran Gwaith a Phensiynau yw:
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar oedran yr unigolyn)
Cyflog Byw Cenedlaethol (23+): £8.91
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22): £8.36
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20): £6.56
Isafswm Cyflog Cenedlaethol (dan 18): £4.62
Contract ar gyfer 25 awr yr wythnos yw hwn, am gyfnod penodol o chwe mis.
Sut i wneud cais
Yn gyntaf, siaradwch â'ch hyfforddwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Bydd hyfforddwr gwaith yn siarad â chi am Kickstart.
Yna bydd eich hyfforddwr gwaith yn eich cyfeirio ar gyfer y swydd, yn dibynnu ydych chi’n addas ac ar gael.
Ni ofynnwn ichi lenwi ffurflen gais ffurfiol. Yn hytrach, gofynnwn am fynegiad o ddiddordeb sy’n esbonio yn eich geiriau eich hun pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd drwy anfon llythyr atom gyda’r wybodaeth ganlynol:
* pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd
* beth byddwch chi’n dod ag ef i’r swydd
* eich manylion cyswllt
* Eich côd cyfeirio gan eich hyfforddwr gwaith (RHAID i chi gynnwys hwn er mwyn i'ch cais gael ei ystyried)
* Bydd eich hyfforddwr gwaith yn rhoi'r cyfeiriad e-bost i chi anfon eich llythyr ato.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd, 5yp
Cyfweliadau: 16 Rhagfyr
Start: I'w gadarnhau (am 6 mis)
Dysgwch ragor am Gynllun Kickstart yma: https://www.gov.uk/government/collections/kickstart-scheme