Andrew Ogun fydd yr Asiant - cerddor, awdur, dylunydd ac ymgyrchydd 23 oed o Gasnewydd. Bydd yn dechrau ar 15 Ebrill.

Mae penodi Andrew yn cyflawni ymrwymiad y Cyngor i gymryd camau penodol i weddnewid ei waith a’i grantiau i’w gwneud yn decach a mwy cyfartal. Mae’r ymrwymiad yn natganiad y Cyngor am Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys a’r Saith Egwyddor Gynhwysol ar gyfer Adferiad Cynhwysol i’r celfyddydau o’r ymgyrch Ni Chawn ein Dileu.

Ar wahân i'w fentrau creadigol, mae Andrew wedi treulio'r llynedd yn canolbwyntio ar Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys gan sefydlu'r mudiad yng Ngwent. Trefnodd orymdaith yng Nghasnewydd gyda thros 2,000 o bobl yno. Chwaraeodd ran hollbwysig yn y gwaith o greu a gweithredu yn 2020 Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru a gafodd ei ysbrydoli gan Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys. Mae Andrew hefyd wedi gweithio gyda sawl sefydliad arall i roi cyfiawnder hiliol a chymdeithasol ar ganol llwyfan Cymru.

Wrth groesawu ei benodiad, dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Rydym ni wedi gwneud ymrwymiad clir i newid. Mae pawb yn gwybod am effaith y coronafeirws ar gymunedau amrywiol a phobl anabl. Wrth inni ymryddhau o’r cyfyngiadau, mae'n bwysig y gall y cymunedau sydd wedi’u hanwybyddu gymryd eu lle yn ein hadferiad diwylliannol.

"Nawr yw’r adeg inni droi ein hymrwymiad yn weithred. Bydd yr Asiant er Newid yn arwain ar hyn. Bydd Andrew yn cael cefnogaeth lawn y Cyngor".

Bydd yr Asiant yn gweithio wrth wraidd Cyngor y Celfyddydau gan ddefnyddio ei wybodaeth, ei arbenigedd a'i brofiad personol i nodi'r rhwystrau sy'n atal tegwch a chynhwysiant. Bydd yn arwain proses o newid diwylliannol yn y Cyngor ac yn y sector diwylliannol.

Mae'r swydd am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd ac mae rhagor o fanylion am y penodiad i'w gweld yma - Asiant er Newid | Arts Council of Wales

Dyma ddatganiad Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys y Cyngor - Mae Bywydau Du o Bwys | Arts Council of Wales a dyma ein cefnogaeth i'r Saith Egwyddor Gynhwysol ar gyfer Adferiad Cynhwysol i’r celfyddydau o ymgyrch Ni Chawn ein Dileu -

Gweithio'n ddiogel drwy’r coronafeirws: 7 egwyddor gynhwysol i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol. | Arts Council of Wales

"Dechreuodd fy nhaith greadigol pan oeddwn yn 17 oed pan lansiais frand dillad o'r enw SUPERNOVA gyda ffrind imi. Roedd yn gatalydd i’m holl ymdrechion creadigol. Gan symud ymlaen o ddillad, dechreuais ddilyn o ddifrif gerddoriaeth - fy mhrif ddiddordeb ar hyn y blynyddoedd a rhyddhau fy record estynedig ddiweddaraf, Flight Mode, y llynedd.

"Bûm yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ar gyfer fy ngradd ac rwyf yn awdur ac yn fardd cyhoeddedig. Gan ganolbwyntio ar y celfyddydau, cerddoriaeth, ffasiwn a diwylliant, rwyf wedi ysgrifennu ar gyfer cylchgronau megis Guap ac rwy’n cyfrannu'n rheolaidd at New Wave.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau yn y swydd gyda’r Cyngor a chyda sector ehangach y celfyddydau – sydd ynddo ei hun yn asiant mor bwysig er newid yn ein cymdeithas."

Andrew Ogun