Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi ei gefnogaeth i’r ymgyrch 'Mae Bywydau Du o Bwys' (Black Lives Matter). Mae ein hymrwymiad yn gadarn. Ond rhaid inni egluro ystyr hynny a'r camau a gymerwn i drosi ein datganiad yn gamau gweithredu i greu newid.
Rydym ni’n cydnabod y gorthrwm systemig ar gymunedau duon ac eraill o du hiliaeth, a'r boen a'r trawma y mae hiliaeth strwythurol yn eu hachosi. Rydym yn cydnabod yr angen brys am weithredu gwrth-hiliol, newid strwythurau a chael proses Gwirionedd a Chymodi. Rydym yn cydnabod anghydraddoldeb strwythurol yn y Cyngor ac yn sector celfyddydol Cymru.
Mae ein strategaeth 2018, 'Er budd pawb', yn gosod cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn. Ond ychydig sydd wedi newid ddwy flynedd yn ddiweddarach. Nid ydym ni wedi mynd yn ddigon pell ac rydym ni wedi methu â chyrraedd y nod.
Nid oes gennym yr wybodaeth a'r profiad o fywyd yn y Cyngor i arwain newid ar ein pen ein hunain. A ninnau’n gorff cyhoeddus, rhaid inni arwain drwy esiampl. Ond cyn y gallwn wneud hyn, rhaid inni fod yn sefydliad mwy amrywiol, tryloyw ac atebol. Wedyn y gallwn chwarae rhan ystyrlon i ddyfnhau’r ymrwymiad i gydraddoldeb yn sector diwylliannol Cymru. Dyma'n blaenoriaeth nawr ac yn yr hir dymor.
Mae ein diwylliant yn adlewyrchu pwy ydym ni. Mae’r ymgyrch 'Mae Bywydau Du o Bwys' yn datgan ein bod yn parhau i anwybyddu’r ffaith bod cymdeithas yn atgyfnerthu gwahaniaethu a diffyg cydraddoldeb. Mae’n drist ei bod yn cymryd argyfwng inni hoelio'n sylw ar y diffyg hawliau. Rhaid inni ddysgu o’r ymgyrch 'Mae Bywydau Du o Bwys' a’r glymblaid 'Ni Chawn Ein Gwaredu'.
Rhaid inni ymgorffori yn ein polisïau a'n penderfyniadau brofiad o fywyd y rheini sy’n wynebu rhagfarn ar sail hil. Rhaid cael cymorth gan artistiaid duon ac artistiaid o gymunedau eraill sydd wedi profi hiliaeth, ynghyd â phobl fyddar a phobl anabl, i symud ymlaen a gwneud gwell penderfyniadau.
Rydym ni’n cydnabod effaith emosiynol y gwaith a'r pwysau aruthrol sydd ar gymunedau ac unigolion sy'n profi hiliaeth. Hoffwn ni ddweud wrthynt: "Rydym ni wedi ymrwymo i'ch diogelu a hyrwyddo eich lles. Ni wastraffwn eich amser gyda siarad gwag. Ni ddisgwyliwn ichi ymgymryd â’r gwaith yn rhad ac am ddim. Rydym ni am eich parchu, eich gwerthfawrogi a'ch diogelu".
Ni fydd y broses hon yn hawdd.
O bosibl y bydd camgymeriadau. Ond pan fydd un yn digwydd, byddwn ni’n derbyn ein diffygion a syrthio ar ein bai. Byddwn ni’n dysgu o’n camgymeriadau ac yn aros yn ddiwyro ar y llwybr hwn.
Mae aelodau’r Cyngor yn cymryd rhan mewn sgyrsiau a fforymau cyhoeddus ac yn cynnig set gychwynnol o gamau gweithredu. Ein bwriad yw ychwanegu atynt a'u datblygu ymhellach wrth wrando ar eraill:
- Sefydlu, ymhen ychydig wythnosau, gyfres o sgyrsiau rhwng y Cyngor ac artistiaid duon ac o gefndiroedd lleiafrifol ethnig eraill a chymunedau difreintiedig i glywed eu profiad o fyw a gweithio yng Nghymru (gan sicrhau bod y lleisiau yma’n dylanwadu’n drwm ar y camau gweithredu).
- Trefnu cynhadledd i roi llwyfan i’r drafodaeth Gwirionedd a Chymodi
- Cydweithio â chymunedau ledled Cymru i ddatblygu a chyhoeddi cynllun adfer ar ôl Cofid-19 sydd â chydraddoldeb wrth ei wraidd ac sy'n mynnu bod sefydliadau yn ein Portffolio yn gwneud yr un peth
- Diwygio ein proses ymgeisio a’n meini prawf asesu am grantiau’r Loteri Genedlaethol i sicrhau bod ein harian yn cyrraedd yn ddyfnach i gymunedau Cymru
- Creu swydd newydd, Asiant er Newid. Bydd y swydd hon ar lefel uwch o fewn Cyngor y Celfyddydau ac â mandad i ysgogi newid o fewn ein sefydliad.
- Cefnogi’r Portffolio i wneud eu byrddau llywodraethu, eu gweithlu a'u rhaglenni gweithgarwch yn fwy amrywiol gan roi pwyslais o’r newydd ar gynhwysiant. Byddwn ni’n dal sefydliadau’n atebol am hyn yn ein hadolygiadau buddsoddi yn y dyfodol sy’n ymdrin ag ariannu sefydliadau
- Uwchraddio ein his-bwyllgor ymgynghorol sy’n monitro cydraddoldeb i un o bwyllgorau llawn y Cyngor, gan sicrhau bod y Cyngor ei hun yn adlewyrchu'n well y profiad o fywyd angenrheidiol i gynrychioli Cymru yn yr 21ain ganrif
- Dysgu o lwyddiant ein cronfeydd ymateb brys i Cofid-19. Roeddent wedi cyrraedd pobl fwy amrywiol nag unrhyw un o'n rhaglenni blaenorol – rhaid sicrhau mai’r dyma’n harfer yn y dyfodol
- Cymryd rhan mewn deialog a dysgu parhaus gan herio ein diwylliant sefydliadol ein hunain
- Creu prosesau tryloyw a chynhwysol dan arweiniad pobl â phrofiad o fywyd
Roedd y coronafeirws yn her enfawr i'r sector.
Mae'r pandemig hefyd wedi cynyddu’n fawr anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae’r cymunedau dan sylw wedi cydnabod a phrotestio'r anghydraddoldeb ers blynyddoedd lawer. Rydym ni’n ymddiheuro'n llaes fod eisiau pandemig, ymgyrch 'Mae Bywydau Du o Bwys' ac 'Ni Chawn Ein Gwaredu' inni glywed y neges yn glir. Ond mae’n hymrwymiad i weithredu yn gryfach nag erioed.
Sector celfyddydol sy’n iach, teg a gwydn yw un sy'n wrth-hiliol ac sy’n magu ymddiriedaeth mewn cymunedau. Rhan o’n hymateb i’r coronafeirws yw gwrth-hiliaeth a gweithredu dros gydraddoldeb. Hefyd cydnabyddwn ymgyrch Mae Bywyd Pobl Draws o Bwys, y gymuned LGBT!+ cymunedau Cymraeg eu hiaith a phob cymuned arall sy’n profi anghydraddoldeb. Nid ydym ni am anwybyddu neb.
Mae Cymru'n wlad sydd wedi cael ei llethu a'i gorthrymu. Ond mae hefyd wedi cefnogi systemau o orthrwm. Dyma’r cyfle i Gymru gadarnhau ei hymrwymiad i frwydro yn erbyn gormes, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder. Wrth i Gymru ddod o’r cyfnod cloi, gadewch inni adeiladu sector creadigol tecach. Gadewch inni sicrhau bod Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb a chynhwysiant. Rhaid inni osod ein safonau uchel i ni ein hunain.
Mae'r newid hanesyddol hwn yn tanlinellu ein hawydd i gael Cymru newydd - un sy'n amrywiol a’i seiliau’n gadarn yn ei hiaith a’i diwylliant brodorol a ddylai fod yn hygyrch i bawb. Dyma Gymru sy'n gyfartal ac yn gwrando ar brofiad o fywyd. Rhaid inni edrych i’r dyfodol a gwella ein gwaith a’n byd.