Cafodd y rhaglen Gwrando ei greu yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig ac er mwyn cefnogi artistiaid i wrando a dysgu gan y nifer o ieithoedd brodorol y byd sydd mewn perygl. Dyma (NAME OF ARTIST) yn trafod ei phrosiect a’i thaith hyd yma(IF FEMALE) / ei brosiect a’i daith hyd yma (IF MALE). 

 

Dysgwch mwy am deithiau’r artistiaid yma:  

 

Chembo Liandisha – 'Namvwa'

Bu’n gwrando ar ddiwylliant mamiaith ei mam yn Sambia gyda phobl y Gawa Wndi a’r Chewa gan wrando ar eu pryderon, eu syniadau a’u gobeithion mewn sefyllfa mor gyfnewidiol.

 

Dylan Huw –'cyfiaith/queer' 

Creodd ddeialog ac ysgrifau archwiliadol rhwng awduron/artistiaid o Gymru ac Iwerddon sy'n gweithio yn y Wyddeleg a’r Gymraeg. Archwiliodd y syniad o greu iaith gwiar a phwysigrwydd gwrando ar ieithoedd a chymunedau lleiafrifol sydd mewn perygl, mewn cysylltiad â syniadau cwiar ac ecolegol.

 

Gareth Bonello – ‘Sai-thaiñ’ 

Bu’n gweithio gyda Lapdiang Syiem, bardd, ymgyrchydd a pherfformiwr o gymuned Khasi ym Meghalaya, Gogledd-ddwyrain India gan archwilio'r cysylltiadau rhwng y Cymry a phobl Khasi a'r heriau sy'n eu hwynebu. Roedd yn cyfuno barddoniaeth, perfformiad, cerddoriaeth a deunydd clywedol/gweledol yn y Gymraeg ac iaith y Khasi i drafod hunaniaeth ddiwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd. 

 

Georgina Biggs - 'Ffyrdd wedi’u hymgorffori o wrando' 

Roedd wedi dyfnhau ei harchwiliad creadigol gan wrando ar leisiau’r cyndeidiau gydag Anthar Kharana a Javier Peralta (cerddor â nam ar ei olwg ym Mogota). Archwiliodd hefyd ddefod iachau draddodiadol pobl y Mwisca yng Ngholombia.

 

Iola Ynyr – 'Coflaid' 

Mae ganddi ddiddordeb mewn gwrando ar straeon menywod brodorol Canada gan rannu profiadau a gwirioneddau a gweld y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng Canada a Chymru.

 

Siri Wigdel - 'Govledh' 

Bu’n gweithio gyda'r cwmni Norwyaidd/Sami, GullBakken, ac Ole-Henrik Lifjell ar draddodiad y Sami o ganu joic. Mae Siri’n hanu o Norwy ac mae ganddi dras Sami. Bu’n ymchwilio i’r diwylliant a chydweithio â'r artistiaid o Gymru, Cai Tomos a Jodie Marie.

 

Veronica Calarco - 'Gwrando Dwfn Molla Wariga' 

Datblygodd gyfnewid rhwng artistiaid yn Awstralia, Iwerddon a Chymru gan greu lle i'r artistiaid ailfframio sut maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu eu harchwiliadau diwylliannol, ieithyddol a chreadigol.