Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn lansio Cynhyrchiadau Mawr — cronfa newydd i gefnogi profiadau celfyddydol byw uchelgeisiol, o ansawdd uchel sy’n dathlu creadigrwydd Cymru ar raddfa fawr – ym mis Tachwedd.
Mae’r canllawiau nawr ar gael ar wefan Cyngor y Celfyddydau ac mae sefydliadau’n cael eu hannog i wneud yn siwr bod eu projectau’n gymwys cyn i’r gronfa agor am geisiadau ar ddydd Llun, 3 Tachwedd 2025.
Gan gynnig grantiau rhwng £100,000 a £300,000, bydd y gronfa yn edrych i gefnogi sefydliadau sy’n creu cynyrchiadau eithriadol ym meysydd theatr, dawns a theatr gerdd sy’n gallu ymgysylltu ag ystod eang o gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Dylai’r prosiectau arddangos y gorau o dalent Cymru a rhai sy’n gweithio yng Nghymru, ac amlygu partneriaethau artistig cryf, gan ddod ag adnoddau ychwanegol i mewn i ymestyn uchelgais ac ansawdd ble bo angen, yn ogystal â chynllunio cadarn a chynaliadwyedd ariannol.
Mae’r gronfa newydd yn dilyn cyhoeddiad Cyngor y Celfyddydau fis Gorffennaf yma ei fod am ailstrwythuro ei raglen Loteri blaenllaw, Creu, mewn ymateb i adborth gan y sector oedd yn galw am ddull mwy penodol ac ymatebol o fuddsoddi mewn celfyddydau. Bydd yr ailstrwythuro’n cyflwyno chwe ffrwd ariannu erbyn 2026, gan gynnig ffrydiau clir sy’n ymestyn yn ehangach ar draws cymunedau a ffurfiau celfyddydol.
Bydd Cynyrchiadau Mawr ar agor i sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn unig, ac mae wedi eu anelu at gynhyrchwyr profiadol sydd â hanes cryf o gyflwyno gwaith rhagorol. Dim ond un rownd ariannu fydd bob blwyddyn.
Mae Cynhyrchiadau Mawr yn adlewyrchu rhan o'n gweledigaeth ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru, fel lle ble mae'r gwaith mwyaf uchelgeisiol a chyffrous yn cael ei greu a'i rannu. Mae'r gronfa hon wedi'i siapio trwy wrando ar y sector ac ymateb i’w gofynion. Roedd hefyd yn un o'r argymhellion yn yr adolygiad a gomisiynwyd gennym i theatr Saesneg yng Nghymru. Gyda £600,000 ar gael, rydyn ni'n gwybod y bydd cystadleuaeth ar gyfer y gronfa Cynhyrchiadau Mawr yn gryf. Mae Cymru'n llawn talent a chreadigrwydd eithriadol, ac rydym yn annog sefydliadau i edrych ar y canllawiau a gweld os yw'r cyfle yma yn addas ar eu cyfer.
Bydd ceisiadau’n agor ar Dydd Llun 3 Tachwedd 2025 ac yn cau ar dydd Mercher 28 Ionawr 2026 am 1pm.
Ceir manylion llawn ac arweiniad ar sut i wneud cais yma.