Bydd yn gyfle 6 mis â thâl i ddeg unigolyn sy'n gweithio ym maes celfyddydau gweledol Cymru. Bydd y Cymrodyr yn ystyried sut i ddatblygu eu hymarfer yn rhyngwladol, gwneud cysylltiadau â’r Cymrodyr a gweithwyr eraill yn y maes ac archwilio her a chyfle Biennale Fenis.

Dyma’r Cymrodyr:

  • Farah Allibhai
  • Phoebe Davies
  • Paul Eastwood
  • Heledd C Evans
  • Rebecca Jagoe
  • Rhiannon Lowe
  • Owain McGilvary
  • Cinzia Mutigli
  • Cynthia MaiWa Sitei
  • Jennifer Taylor

Cânt grant o £15,000 a’r cyfle i gymryd rhan yn rhaglen ddatblygu Artes Mundi i gael hyfforddiant, mentora, amser i ymchwilio er mwyn ymgysylltu’n ystyrlon â’r Biennale.

Nod y rhaglen yw cefnogi unigolion gyda phrofiad personol amrywiol ar wahanol adegau yn eu gyrfa. Cânt y rhwydweithiau, y sgiliau a'r wybodaeth i wireddu eu huchelgais rhyngwladol mewn ffyrdd newydd.

Meddai Louise Wright, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru: "Hysbysebwyd y Gymrodoriaeth ddechrau Mehefin a chawsom 79 cais a oedd yn ymateb gwych. Roedd amrywiaeth a safon y ceisiadau’n hyfryd i’w gweld a chynhwysent sawl uchelgais gwahanol. Gwelsom yn gliriach y rhwystrau sy’n wynebu pobl o wahanol gefndiroedd ac ar wahanol adegau yn eu gyrfa."

Roedd y panel dewis yn cynnwys:

  • Amanda Cachia, curadur, awdur a hanesydd ym maes celf anabledd
  • Harriet Cooper, curadur, Pennaeth Celfyddydau Gweledol Jerwood ac aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Fenis
  • Prabhakar Pachpute, artist yn India a chyn-enillydd gwobr Artes Mundi
  • Bedwyr Williams, artist yng Nghymru a gynrychiolai Gymru yn Fenis yn 2013
  • Louise Wright, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru a chadeirydd y panel

Rhagor o wybodaeth am y Cymrodyr yma.

Mae'r Gymrodoriaeth yn rhan o Gymru Fenis 10 sy’n cynnig cyfleoedd rhyngwladol a chomisiynau newydd mewn partneriaeth ag Artes Mundi a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Gweithiwn hefyd gydag Amgueddfa Cymru a diolchwn am gefnogaeth Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru.

Cyflwynodd y Cyngor naw arddangosfa ym Miennale Fenis gan ddechrau yn 2003. Ond yn 2022 cymerom hoe i ailfeddwl ein hagwedd at y Biennale a gwaith rhyngwladol. Roeddem am gydweithio ag artistiaid mewn ffordd wahanol i nodi ein 10fed tro gyda’r Biennale. Dyma ragor o wybodaeth am Gymru Fenis 10: Cyfleoedd newydd i’r celfyddydau gweledol gan Gymru Fenis 10

Dyma wybodaeth am Gomisiynau Cymru Fenis 10:

https://artesmundi.org/

https://disabilityarts.cymru/