Farah Allibhai

Mwslim Gwjarati Shia Ismaili o Wganda ydyw ond yng Nghaerdydd mae’n byw ers sbel hir. Mae hyn yn rhoi golwg rhyngwladol gwahanol iddi ar ei gwaith a’i bywyd. Mae’n artist a churadur amlddisgyblaeth sy’n canolbwyntio ar hunanddarganfod, hunanwireddu ac iachau’r person oddi mewn. Ei phrofiad personol yw ei hysbrydoliaeth ynghyd ag amrywiaeth, metaffiseg a'r ysbrydol. Mae'n cwestiynu sut y gallwn gysylltu â'n person oddi mewn, ein hamgylchedd a’n cymuned. Yn ei gwaith safle-benodol mae’n arsylwi a pherfformio.

Cafodd Gymrodoriaeth Weston Jerwood yn 2021 fel cynorthwyydd curadurol yn Artes Mundi. Roedd yn allweddol wrth sefydlu’r gydweithfa, 1800hrs. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Gydweithfa Aurora Trinity a Chelfyddydau Anabledd Cymru.

 

Phoebe Davies

Mae’n byw a gweithio ym Mro Morgannwg. Mae ei gwaith yn cynnwys lluniau symudol, print a sain, seiliedig ar ei gwaith maes a chydweithio mewn gwahanol sectorau cymdeithasol a diwylliannol. Mae’n cynnwys athletiaeth, gweithredu, ffuglen a ffermio organig. Cydweithia ac ymetyb yn aml ag unigolion, cymunedau a lleoliadau. Fel arfer defnyddia’r lens, y corff a'r llais i archwilio gwleidyddiaeth bersonol a phrofiadau dyfnaf pobl.

Mae hefyd yn cyfarwyddo perfformiadau ar y llwyfan a'r sgrin yn rhan o'r ddeuawd artistig, Bhebhe&Davies. Arddangoswyd ei gwaith mewn nifer o leoedd gan gynnwys:

  • Gŵyl y Llais (Caerdydd)
  • Tate Modern (Llundain)
  • Oriel Safle (Sheffield)
  • Casgliad Wellcome (Llundain)

Ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Freelands gan g39 yng Nghaerdydd.

 

Paul Eastwood

Mae’n artist gweledol yn Wrecsam. Mae’n adrodd straeon gyda’i gelfyddyd. Crea hanesion dychmygol a sawl fersiwn ar y dyfodol i weld sut mae lleoedd, pethau ac atgofion yn llunio ein hunaniaeth. Mae iaith frau/gryf, naturiol/ffug yn bresenoldeb cyson yn ei ymarfer. Mae ei waith yn cynnwys gosodiadau, cerameg, tecstilau, darluniau, fideos a phrintiau.


Bu’n astudio yng Ngholeg Iâl, Wrecsam (2003-4), Ysgol Gelf Wimbledon, Llundain (2004-7) ac Ysgolion yr Academi Frenhinol, Llundain (2011-14). Daeth yn ôl i Gymru ac enillodd Wobr Gelf gyntaf NOVA, Cymru (2017). Bu’n arddangos ledled Cymru, Lloegr ac Ewrop gan gynnwys yn:

  • Chapter, Caerdydd (2019)
  • Tŷ Pawb, Wrecsam
  • MOSTYN, Llandudno

Yn 2020 roedd yn Gymrawd Cymru Greadigol am 3 mis yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain.

 

Heledd C Evans

Mae’n artist a hwylusydd yng Nghaerdydd. Ym maes sain a safle-benodol mae ei gwaith gan amlaf. Yn ddiweddar, creodd waith i Eglwys Llandyfeisant ger Llandeilo i’r ŵyl, Y Tu Hwnt i'r Ffin, a gosodiad, Interwoven, gyda'r artist tecstilau Annie Fenton yn Shift Caerdydd lle mae’n preswylio ar hyn o bryd.

Aeth yn Gymrawd Cam Newid gan Gronfa Cymwynasgarwch i Artistiaid ar ôl graddio o Brifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd. Gwnaeth sawl preswylfa wedyn gan gynnwys:

  • Celfyddydau Out There
  • Gwnaed yn y Rhath
  • Oriel Artistiaid Simpson

Gweithiai fel hwylusydd gydag Artes Mundi a Ni yw’r Dyfodol yn y Fenni. Creodd gyfres o weithdai sain a sŵn arbrofol, Noisestruck!, gyda Cherddoriaeth Gymunedol Cymru.


Cydweithia ar hyn o bryd â'r awdur a'r cerddor Rosey Brown fel rhan o ddeuawd sain/perfformio, Ardal Bicnic. Datblyga berfformiad awyr agored, Sound Foraging, yn rhan o Fwrsariaeth Gelf Awyr Agored Articulture, gan berfformio'n ddiweddar yng Ngŵyl Surge yn Glaschu/Glasgow a gŵyl Spraoi yn Port Láirge/Waterford.

 

Rebecca Jagoe

(‘Nhw’ yw eu rhagenw). Maent yn artist, awdur a golygydd awtistig yn Nhrefynwy. Mae eu gwaith yn cynnwys gwrthrychau, darlunio, tecstilau, testunau, perfformiadau a gweithdai. Archwilia eu hymarfer fod yn fwystfil a gorffwyll yn niwylliant y Gorllewin, y berthynas rhwng dillad, salwch, a rhywedd ac agosatrwydd dynol ag eraill nad ydynt yn ddynol. Ar hyn o bryd maent yn Gymrawd Freelands yn g39 yng Nghaerdydd ac ymchwiliant i olion animistiaeth yn ieithoedd Ewropeaidd yr Oesoedd Canol hwyr.

 

Rhiannon Lowe

(‘Hi’ yw ei rhagenw). Ganed hi yn Swydd Efrog ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n berfformiwr a gwneuthurwr sŵn. Defnyddia leoedd gwneud, lled-ddomestig i gynnal perfformiadau a hongian gwaith. Mae'n ysgrifennu a churadu arddangosfeydd a pherfformio mewn digwyddiadau sain. Bu’n astudio yng Nghaerhirfryn, Birmingham a Chaerlŷr.

Trans Panic yw ei phrosiect presennol am drawsnewid rhywedd. Mae’n ei chyfleu ei hun yn artist trawsrywiol sy'n gweithio ar bwnc trawsrywiol ac yn arthio ar y cyfryngau gwrthdrawsrywiol. Mae ei chymeriad ffug, Cekca Het, yn fand pop/sŵn aflwyddiannus sy'n atgof o’r 80au a’r cyfnod arddegol.

Dyma rai o’i phrosiectau diweddar:

  • Man, I can’t tell you how relieved I was when you took off your dress, you didn’t have a dick, Aggregate 2022, Freelands, Llundain
  • This is no Time to Plan an Ending, g39, Caerdydd
  • Careful Networks, Phoenix, Caerlŷr
  • Cekca Het: Trans Panic, Oriel y Genhadaeth, Abertawe
  • Cymrodoriaeth Freelands, g39, Caerdydd

 

Owain McGilvary

Mae’n gweithio ar Ynys Môn gyda lluniau symudol, paentio a darlunio. Sonia ei waith am ddulliau cyfathrebu ein diwylliant poblogaidd, iaith bob dydd hyfrydion a’u hisddiwylliannau. Mae’n archwilio lleferydd, ystum, delwedd, hanes llafar, dyfalu, dogfennu arbrofol a deunydd o’r archifau ac a ganfuwyd.

Dyma olwg ar ei waith a’i gyflawniadau diweddar:

  • I’m finally using my body for what I feel like it is made to do, Chapter (2022)
  • Caru'n Ddwys, Tŷ Pawb, Wrecsam
  • Gwobr Creu Celf Weledol a Chrefft (2021)
  • Preswylfa i Raddedigion mewn Ysbytai (2021)
  • Grant gan Ymddiriedolaeth Hope Scott (2021)
  • Grant gan Gronfa Greu Cyngor Celfyddydau Cymru (2021)

Mae ganddo radd feistr yn y Celfyddydau Cain o Ysgol Gelf Glaschu/Glasgow (2019) a BA yn y Celfyddydau Cain o Central Saint Martins (2015).

 

Cinzia Mutigli

Mae’n gweithio yng Nghaerdydd ym maes ffilm, ysgrifennu, sain, perfformio a lluniau print gan gysylltu ei hanes hi a storïau diwylliannol ehangach. Thema ei gwaith yw iechyd meddwl a lles a'u cysylltiad personol, proffesiynol a chreadigol a sut mae diwylliant cartref a phoblogaidd yn effeithio ar ein personoliaeth, ein meddwl a'n hunaniaeth.

Dyma rai o’i phrosiectau diweddar:

  • I’ve Danced at Parties, Survey ll, Celf Jerwood (2021)
  •  Sweet Wall, Jupiter Artland, Caeredin (2020)
  • Cheery Like Lorraine Kelly’s Cheery (testun) i ON CARE, Ma Biblioteque (2020)
  • My Boring Dreams featuring Kylie, Neneh, Whitney and the Gang for Chips & Egg, Oriel Peintwyr Dydd Sul, Llundain (2019)
  • Diana Ross Shaped, Cubitt, Llundain (2018)

Yn 2022 cafodd Wobr Wakelin gan Gyfeillion Oriel Glynn Vivian am ei gosodiad ffilm, Sweet Wall.

 

Cynthia MaiWa Sitei

Mae ganddi genedligrwydd deuol (Cenia a Phrydain). Mae’n gweithio yng Nghaerdydd fel curadur a ffotograffydd dogfennol. A hithau’n guradur Ffotogallery, gweithiodd ar nifer o brosiectau gan gynnwys dwy arddangosfa gan artistiaid gweledol o Affrica. Mae ei gwaith yn cyfuno ffotograffiaeth a thestun gan archwilio themâu ystrydebau, rhagfarn a gwahaniaethu. Cred i ehangu'r sector celfyddydol fod rhaid cynnwys lleisiau gwahanol a newydd sy'n herio a chwestiynu’r drefn.

 

Jennifer Taylor

Ganed hi yn Sir Benfro ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn cynnwys perfformiadau byw, ffilm a gosodiadau i archwilio ymddygiad defodol a systemau o reoli. Mae’n cyfuno hen gyfriniaeth â ffuglen wyddonol i greu storïau chwerthinllyd mewn cyd-destun amwys. Mae ei digwyddiadau byw, anarchaidd yn gweld perfformwyr yn ail-greu hen wyliau ffrwythlondeb a seremonïau rhyfedd. Bu’n astudio yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain ac Ysgol Ruskin, Prifysgol Rhydychen lle cafodd radd dosbarth cyntaf.

Bu’n Gymrawd Freelands gydag g39 ac yn Rhufain bu’n Gymrawd Stella ym Mhrosiectau Castro a Chymrawd Cymru Greadigol yn yr Ysgol Brydeinig. Bu’n arddangos yn:

  • Palazzo del Podestà Piacenza, Hypermaremma Twsgani
  • KARST Aberplym
  • Prosiect Wapping, Llundain
  • Fondation Cartier pour l'art contemporiain, Paris
  • A Gentil Carioca, Rio de Janeiro