**Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i Gymrodoriaeth Cymru Fenis 10. Nawr am 5pm 12 Gorffennaf 2022. **

Lansiodd Cyngor Celfyddydau Cymru ddau gyfle i Gymru Fenis 10:

Cymrodoriaeth Cymru Fenis 10.

Cyfle unigryw â thâl am 6 mis i 10 unigolyn ym maes ein celfyddydau gweledol yw hwn. Mewn partneriaeth ag Artes Mundi bydd rhaglen o ddatblygiad proffesiynol rhyngwladol. Byddwch yn cysylltu ag artistiaid a phobl sy'n gweithio'n rhyngwladol. Cewch ailddychmygu a chwestiynau ffyrdd presennol o feddwl.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cynhelir digwyddiad ar-lein ar 10 a 13 Mehefin 2022. Cliciwch yma i gofrestru: https://www.eventbrite.co.uk/e/cymrodoriaeth-cymru-fenis-10-wales-venice-10-fellowships-tickets-350442291327

Ceir nodiadau o'r sesiynau briffio ar-lein yma: https://arts.wales/cy/resources/wales-venice-10-fellowship-briefing-notes

  • 7 Mehefin 2022 yw’r dyddiad agor.
  • 5pm ar 12 Gorffennaf 2022 yw’r dyddiad cau.

Comisiynau Cymru Fenis 10

Dyma gyfle i artistiaid Cymru ymgeisio am gomisiynau cyffrous i greu gwaith newydd. Artes Mundi a Chelfyddydau Anabledd Cymru fydd yn eu cynnal.

Beth yw Cymru Fenis 10?

Cyflwynodd y Cyngor 9 arddangosfa yn y Biennale gan ddechrau yn 2003. Ond yn 2022 ataliwn ein llaw i ailystyried ein hymwneud â’r ŵyl a’n gwaith rhyngwladol gan gydweithio ag artistiaid ar ffordd wahanol o nodi ein degfed Biennale.

Cyfleoedd yw’r gymrodoriaeth a'r comisiynau sy’n cefnogi artistiaid, curaduron, awduron a gweithwyr creadigol ym maes ein celfyddydau gweledol. Bydd Cymru Fenis 10 yn fodd i bobl ddatblygu eu rhwydweithiau, eu sgiliau a'u gwybodaeth i gyflawni eu huchelgais rhyngwladol ac archwilio ffyrdd newydd o weithio.

Ei nod yw canolbwyntio ar unigolion sy'n wynebu rhwystrau i’w  huchelgais rhyngwladol, sydd â phrofiad personol amrywiol ac sydd ar wahanol adegau yn eu gyrfa.

Ei amcanion eraill yw cysylltu’n well â chynulleidfaoedd lleol a byd-eang, ehangu ein hymgysylltiad ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Partneriaeth ag Artes Mundi, Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru yw Cymru Fenis 10.

Dysgwch ragor am ein hanes yn yr ŵyl yma: https://celf.cymru/cy/fenis