Mae dewis yma yn adlewyrchu amcan un dewis arall - sef prosiect Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol - i ehangu ei dealltwriaeth am fyd natur a’n perthynas ni gyda hi. Yn mis Medi'r llynedd fe wnaeth RSPB Cymru bartneri gyda lleoliad cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd – sef Paradise Garden – i gynnal noson o gerddoriaeth i ysbrydoli sgyrsiau am yr argyfwng natur yng Nghymru. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys cerddoriaeth byw amgen gan yr artistiaid Ya Yonder a Teddy Hunter, set DJ gan Ginny Darke a delweddau byw gan Chameleonic. 

Mae yna sawl rheswm pan ddewisais i’r prosiect bach yma. Yn gyntaf, fe wnaeth fy atgoffa o gig ffantastig es i iddo yng Nghasnewydd rhai blynyddoedd yn ôl o’r enw Make Noise. Roedd y gig yma yn rhan o daith ailgylchu electroneg o gwmpas y DU ac yn lle talu ffi i gael mynediad, roedd gofyn i bawb ddod ag eitem electroneg i’w ailgylchu. Felly roedd y syniad o ddefnyddio cerddoriaeth i annog sgyrsiau am faterion ehangach yn un wnaeth apelio’n fawr. Wrth gwrs, nid yw hyn yn beth newydd ond eto i gyd, mae’n parhau i fod yn berthnasol ac yn bwerus iawn. Yn ail, roedd yn ategi rhywbeth y gwnes i bwysleisio yn gynharach sef y pwysigrwydd o gydweithio ac i wthio ffuniau.  

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gwneud llawer iawn o waith da i annog a chefnogi artistiaid i weithio dros ffiniau daearyddol er mwyn sicrhau fod ein diwylliant yn parhau i ddatblygu. Mae prosiectau fel ‘Natur(e)’ hefyd yn gweithio dros ffiniau traddodiadol i annog yr un math o sgyrsiau cynhyrchiol. Er taw un digwyddiad yn unig oedd hwn, roedd yn un a wnaeth rhoi llygedyn o obaith ac ysbrydoliaeth i’r rhai ohonom sydd yn chwilio am bethau bychain y gallwn wneud er mwyn dathlu creadigrwydd a natur tra hefyd yn parhau i ddatblygu’r sgwrs ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd. Nodir na wnaeth RSPB Cymru na Paradise Garden dderbyn unrhyw nawdd na chefnogaeth ariannol gan Gyngor y Celfyddydau na Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar gyfer y prosiect hwn. 

 

Gwefannau & Gwefannau Cymdeithasol  

Gwefan: www.rspb.org.uk/wales 

Instagram: @rspbcymru @paradisegardencdf @ya_yonder @_teddyhunter @ginny.darke @chameleonic 

X: @RSPBCymru @ya_yonder @_teddyhunter @ginnydarke@chameleonic  

 

Ani Glass yw ein curadur gwadd ar gyfer #PethauBychain 2024. Darllenwch mwy am y thema a'r prosiectau eraill a ddewiswyd yma: