Datganiad Polisi

Mae’r Polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig yn berthnasol i’r canlynol:

X: @arts_wales_  

Facebook: https://www.facebook.com/celfyddydau

Instagram: https://www.instagram.com/celfcymruarts/

Cymeradwywyd gyntaf ym mis Medi 2023 a bydd yn cael ei adolygu bob 3 blynedd neu’n gynt os yw amgylchiadau’n mynnu.

Polisi Cyfryngau Cymdeithasol a Chanllawiau Cymuned

Caiff ein sianeli cyfryngau cymdeithasol eu monitro yn ystod oriau swyddfa arferol. Er y byddwn yn rhannu negeseuon dros y penwythnos a gwyliau cyhoeddus yn achlysurol, ni chaiff ein tudalennau eu monitro yn ystod y cyfnod hwn a bydd oedi wrth gael ymateb.

Rydym yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu gwybodaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo’n cronfeydd ariannu, gwasanaethau, cyfleoedd, gweithgaredd a rhannu effaith ein gwaith. Rydym hefyd yn ymdrechu i ddifyrru’n dilynwyr â chynnwys creadigol, i ddathlu a rhoi llwyfan i’r celfyddydau ar draws Cymru, ac i hyrwyddo unrhyw wasanaethau neu gyfleoedd a all fod o ddiddordeb i’n cynulleidfaoedd.

Caiff ein Negeseuon Uniongyrchol eu monitro yn rheolaidd, ond nid ydym yn fel rheol yn blaenoriaethu negeseuon sydd yn ein cyrraedd trwy ein cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi gwestiwn neu bryder sydd yn gofyn am ymateb penodol, cysylltwch â ni yn uniongyrchol. 

Byddwn yn rhannu ein cynnwys yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn sicrhau bod ein cymuned yn medru ymwneud â ni yn y naill iaith neu’r llall.

Rydym eisiau sicrhau fod ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cynnig awyrgylch diogel i’r rheiny sy’n gysylltiedig â Cyngor Celfyddydau Cymru a rheiny sydd rhyngweithio â’n sianeli. Mae hyn yn cynnwys ein dilynwyr yn ogystal â’r rheiny yr ydym yn gweithio â nhw, unigolion, sefydliadau, ein partneriaid, rhanddeiliaid a’n staff. Byddwn yn sicrhau bod ein gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyson gyda'n gwerthoedd a'n nodau fel sefydliad.

Mae polisi cyfryngau cymdeithasol a chanllawiau cymuned ein sefydliad yn nodi ein hymrwymiad i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gadarnhaol, i hyrwyddo cyfathrebu effeithiol, ac i warchod preifatrwydd defnyddwyr. Nodir ein disgwyliadau ar gyfer ymddygiad ar-lein ac amodau defnyddio cyfryngau cymdeithasol yma.

Safonau Ymddygiad:

Rydym yn croesawu barn ein cynulleidfaoedd, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ond gofynnwn i chi drin eich gilydd, a’r rheiny sydd yn rhedeg cyfrifon Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda pharch a charedigrwydd.

Ni fyddwn yn ymwneud â throliau. Byddwn yn gweithredu pan fod angen i rwystro a chael gwared â’r unigolion sydd yn trolio Cyngor Celfyddydau Cymru ac unigolion cysylltiedig, boed yn iaith casineb, bwlio, a rhannu gwybodaeth anwir neu achosi gofid.

Ni fyddwn yn goddef y canlynol:  

  • Bwlio, aflonyddu, neu drolio
  • Trais neu iaith casineb
  • Gwahaniaethu
  • Cynnwys neu ddeunydd sydd yn ymosodol, anweddus, neu’n droseddol
  • Datganiad anwir, camarweiniol, a difenwol am unigolyn neu sefydliad
  • Rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol
  • Deunydd sy’n torri hawlfraint
  • Sbam
  • Negeseuon ailadroddus â’r bwriad o werthu cynnyrch neu wasanaeth

Rheoli Sylwadau:

Cadwn yr hawl i dynnu unrhyw gynnwys sydd yn cynnwys unrhyw un o’r uchod, a byddwn yn adrodd ar unrhyw negeseuon sydd yn torri amodau defnyddio’r platfform sydd wedi eu gosod gan ddarparwyr y platfform.

Ymateb i Ymddygiad Anaddas:

Byddwn yn ymateb yn addas i unrhyw ymddygiad anaddas ar-lein gan fynd ati i ymchwilio, delio â'r mater, neu adrodd yn ôl y canllawiau priodol.

Cysylltu gyda'n Cymuned:

Anogwn gyfraniad adeiladol i'n cymuned ar-lein drwy drafod a rhannu gwybodaeth a gwybodaeth ymarferol. Byddwn yn gwrtais, yn deg, ac yn barchus.

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein negeseuon yn gywir a’n ffeithiau wedi eu gwirio pan fod hynny’n berthnasol. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn ei gywiro yn brydlon.

Diogelu Preifatrwydd:

Cadwn bresenoldeb personol ar-lein yn breifat ac yn ddiogel, gan reoli ein gwybodaeth bersonol yn ofalus.

Rydym yn dilyn amodau defnyddio’r platfformau cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn eu defnyddio. Byddwn yn ystyriol o breifatrwydd eraill ac yn parchu cyfrinachedd.

Ceir rhagor o fanylion am sut y gallwn brosesu eich data personol wrth ichi rhyngweithio â’n sianeli yn ein Polisi Preifatrwydd.

Adolygu a Diweddaru:

 

Y dyddiad adolygu nesaf ar gyfer y Polisi hwn yw Medi 2026 .