Archwiliodd y prosiect ddatblygiad rhuglder yn y Gymraeg, a sut y gellir datblygu Cymraeg llafar gan ddefnyddio’r cyfryngau cyfoes, recordio sain a fi deo. Ffocws y gwaith oedd gwyddoniaeth a chwaraeon, a defnyddiwyd amryw o leoliadau ar dir yr ysgol i ffi  lmio eu harbrofi on a’u sesiynau tiwtora gan ymgorff ori rap, bît-bocsio, perff ormio a chwarae ar eiriau.

Ar ôl eu cyhoeddi ar YouTube, cafodd y ffi  lmiau eu defnyddio gan ddisgyblion eraill yr ysgol at ddibenion dysgu annibynnol. Datblygodd y dysgwyr yn gynt o lawer na’r disgwyl ac mewn amrywiaeth o bynciau yn ystod y cyfnod hwn, nid dim ond ym maes llafaredd Cymraeg. Gwelwyd twf sylweddol yn hyder y  disgyblion; a digwyddodd rhywbeth digon annisgwyl pan ofynnodd criw o fechgyn a allai fod yn anodd eu hymgysylltu, ac sydd byth yn cyfrannu yn y dosbarth, am gael perff ormio eu gwaith i’r dosbarth, a hynny’n llwyr o’u gwirfodd

 

Asiant Creadigol: Emrys Williams    
Ymarferydd Creadigol: Ed Holden (Mr Phormula)                                               
36 o ddysgwyr Blwyddyn 5 a 6