Defnyddiwyd dysgu yn yr awyr agored ac animeiddio i archwilio diwylliant a thraddodiadau pobloedd cyntaf Gogledd America. Roedd y gweithgareddau dan do ac awyr agored yn cynnwys creu arteff actau, adeiladu cuddfannau, cyfeiriannu a chynhyrchu ffilm ddogfen a oedd yn cynnwys rhannau animeiddiedig.

Datblygodd y prosiect ddealltwriaeth y disgyblion am faterion lles, er enghraiff t, sut i ddelio â phryderon, adnabod teimladau ac empathi dros bobl eraill a’r amgylchedd. Yn ogystal â gwelliannau mewn llafaredd, datblygodd y disgyblion eu sgiliau cymhwysedd digidol, eu deallusrwydd emosiynol a’u gallu i gydweithio.

 

Asiant Creadigol: Bev Symonds (Healthy Happy Clever Education)
Ymarferwyr Creadigol: Craig Armiger (Outdoor Coaching UK) Darren Latham (Blue Monkey Animation)
30 o ddysgwyr Blwyddyn 3