Ysgol arbennig yng Nghaernarfon yw Ysgol Pendalar. Ar y cyd â’r cwmni theatr, Cwmni’r Frân Wen, aethant ati i ddatblygu gosodwaith artistig ar dir yr ysgol i ddathlu’r ff aith eu bod wedi bod ar y safl e ers 10 mlynedd. Roedd y gosodwaith yn cynnwys celfyddyd weledol, sain, cerddoriaeth a ffi  lm, ac fe’i crëwyd gan y disgyblion i greu amgylchedd amlsynhwyraidd.

 

Partneriaid y prosiect: Mirain Fllur, Mari Morgan
38 o ddysgwyr CA4

‘Trwy gydol y prosiect, rhoddodd yr artistiaid gymaint o sylw i ddisgyblion sy’n gwerthfawrogi gwaith mewn ff ordd synhwyraidd. Cafodd math o gof synhwyraidd ei greu ar gyfer gweithgareddau yn y dosbarth celf. Bu modd adlewyrchu hyn yn eff eithiol iawn yn y gofod arddangos hefyd. Roedd y disgyblion yn cael eu hysbrydoli’n barhaus i ddatblygu sgiliau i fynegi eu teimladau.’

Ymgysylltodd y prosiect hwn ym maes y celfyddydau mynegiannol y disgyblion mewn gweithdai, gan hyrwyddo mynegiant creadigol, meithrin eu hyder a delio â themâu ymestynnol. Mae’r berthynas a ddatblygodd rhwng Cwmni’r Frân Wen a’r ysgol wedi sbarduno nifer o bosibiliadau ar gyfer prosiectau celfyddydol ar y cyd yn y dyfodol. Mae’r cwmni wedi dweud eu bod yn rhoi cynllun newydd arloesol ar waith sy’n cynnig cyfl eoedd i ddatblygu artistiaid ifanc ag anableddau, a hynny diolch yn uniongyrchol i lwyddiant y prosiect yma.

‘Mae’r disgyblion wir wedi mwynhau hyn, ac mae hi wedi gwella eu hyder mewn gwahanol agweddau creadigol. Gadawodd y prosiect argraff  arbennig iawn ar fy nosbarth. Roedd hi’n brosiect ardderchog a wnaeth argraff  ar y disgyblion a’r staff . Rwy’n gobeithio gallu ymgorff ori rhai agweddau o’r dysgu creadigol a ddysgais yn yr ystafell ddosbarth bob dydd.'