Swydd: Rheolwr Prosiect, Live Music Now Cymru
Graddfa Gyflog: £16,800 (y flwyddyn)
Math o swydd: Rhan amser, 3 diwrnod, 22.5 awr yr wythnos.
Dyddiad cau i wneud cais: 12 yp (canol dydd) ar ddydd Gwener 20 Mehefin 2025
Dyddiad Dechrau: 4 Awst 2025
Hysbysebu am y rhestr fer: w/c: 23 Mehefin 2025
Cyfweliadau: 1 a 2 Gorffennaf, ar-lein dros zoom.
Lleoliad: Yn bennaf yn swyddfa Live Music Now Cymru, Bizspace, Fitzalan Place, Caerdydd ar hyn o bryd gydag opsiwn i weithio diwrnod yr wythnos o gartref.
Bydd oriau gwaith yn cynnwys oriau craidd, 10am-3pm a chytunir ar hyn â’r Rheolwr Llinell.
Efallai y bydd eich angen ar gyfer digwyddiadau a drefnir ar draws yr wythnos ac, adegau prin, dros y penwythnos (tua dwywaith y flwyddyn).
I Wneud Cais
Uwchlwythwch eich CV a llythyr esboniadol yn nodi sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf i’r ddolen hon https://www.surveymonkey.com/r/ApplicationProjectManager2025
erbyn 12 yp (canol dydd) ar ddydd Gwener 20 Mehefin.
Nodwch enwau a manylion cyswllt dau ganolwr sydd mewn sefyllfa i roi sylwadau ar eich gwaith yn broffesiynol, gan nodi’n gryno am ba mor hir a sut y maen nhw’n eich adnabod (ni chysylltir â chanolwyr cyn cyfweliad).
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
Rheoli Prosiectau
- Pob agwedd ar reoli prosiect gan gynnwys; creu a rheoli cynlluniau prosiect, fframweithiau gwerthuso, ffrydiau ariannol, cyllidebau, creu contractau, sicrhau adborth, adroddiadau arianwyr, cofnodi mewn cronfeydd data, cynlluniau cyfathrebu a lliniaru risgiau
- Rheoli ystod o brosiectau a phreswylfeydd cerddorol, dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol, ar amser ac o fewn cyllideb, gan gynnwys datblygu briff y prosiect, amserlennu, cysylltu â cherddorion a llywyddion, a chofnodi’n gywir incwm a gwariant ar weithgareddau.
- Mabwysiadu dull gwella parhaus o ran ymarfer gwaith gan gynnwys bod yn ymwybodol o gerddoriaeth, codi arian ac adroddiadau, ystadegau a thueddiadau ar draws Cymru. Rhoi gwybod i reolwyr llinell am argymhellion a risgiau strategol mewn ymateb i hyn
- Ymweliadau safle achlysurol i weld gweithgarwch ar brosiect;
- Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol a’r Cyfarwyddwr Rhaglen Strategol perthnasol i sicrhau bod gweithdrefnau monitro a gwerthuso priodol ar waith, a bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno i arianwyr erbyn terfynau amser;
- Cysylltu â cherddorion a phartneriaid i ddogfennu gweithgareddau drwy ffotograffau, ffilm a sain mewn ymgynghoriad â staff perthnasol Live Music Now, a sicrhau bod cysyniad priodol ar waith;
- Paratoi adroddiadau’n ôl y gofyn at ddefnydd mewnol ac allanol.
Codi Arian
- Ymchwilio i gyfleoedd ariannu, terfynau amser i’w cyflwyno ac ysgrifennu ceisiadau gyda chymorth y Cyfarwyddwr Cenedlaethol a’r Rheolwr Ymddiriedolaethau a Sefydliadau;
- Bwrw targedau codi arian misol a blynyddol;
- Rheoli perthnasau â chodwyr arian, gan gydymffurfio â phrotocolau stiwardiaeth arianwyr a pharatoi adroddiadau diwedd prosiect gyda chymorth y Cyfarwyddwr Cenedlaethol;
- Sicrhau comisiynau gan ystod o bartneriaid, newydd a hen ar gyfer rhaglenni Live Music Now;
- Cynnal cofnodion incwm, gwariant ac incwm a ragfynegir cywir i’w hadrodd yn fisol i’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol.
Gweinyddu
- Cofnodi digwyddiadau ar gronfa ddata (Blackbaud's Raiser's Edge), creu contractau ac amserlenni i gerddorion a lleoliadau;
- Ceisio adborth/gwerthuso gan leoliadau, y sawl sy’n cymryd rhan a cherddorion a’i gofnodi ar feddalwedd cronfa ddata/arolwg yn ôl y gofyn; dadansoddiad misol o adborth ac arolygon;
- Sicrhau bod manylion cyswllt cerddorion, partneriaid a lleoliadau’n gyfredol ar y gronfa ddata;
- Cadw ystafelloedd ar gyfer hyfforddiant ac ati yn ôl y gofyn;
- Rheoli offer i’w roi ar fenthyg i gerddorion: iPads, allweddellau, offerynnau taro ac ati;
- Bod yn rhagweithiol wrth weithio mewn tîm a gwneud gwelliannau i ymarfer, dylunio sesiynau cyfarfod tîm a rhannu profiad fel rhan o dull gwelliant parhaus yn y rôl hon a gwaith ehangach Live Music Now.
Cyllid
- Tasgau llywodraethu misol gan gynnwys cofnodi llif ariannol prosiect, rheoli cyllid sydd i ddod, prosesu anfonebau ac amlygu risgiau a chyfleoedd ariannol i’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol.
Marchnata a Chyfathrebu
- Eirioli dros waith ac effaith Live Music Now yn fewnol ac yn allanol. Defnyddio profiad i reoli ein prosiectau i gasglu gwybodaeth prosiect, delweddau a dyfyniadau ar gyfer diweddariadau ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Live Music Now;
- Creu taflenni a deunyddiau marchnata gan ddefnyddio Canva a Flickr (rhoddir hyfforddiant) a dylunio a darparu cyfathrebiadau hyrwyddo’r sefydliad.
Rheoli Cerddorion
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol i gysylltu â cherddorion, deall eu sgiliau, nodau datblygu a’r ffordd orau y gallwn feithrin perthynas sydd o fudd i’r ddwy ochr;
- Rheoli gwiriadau GDG i gerddorion yn unol â pholisi Diogelu Live Music Now.
Rheoli Llinell
- Dyrannu tasgau i reolwyr prosiect llawrydd yn achlysurol.
Tasgau ychwanegol
- Dirprwyo’n achlysurol i’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol mewn digwyddiadau mewnol ac allanol;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gofynnir gan y Cyfarwyddwr Cenedlaethol, sy’n berthnasol i Live Music Now.
Telerau ac Amodau
Mae hon yn swydd â chontract parhaol.
Y cyflog fydd £16,800 y flwyddyn am 22.5 awr yr wythnos ac fe’i telir bob mis.
Cyfle Cyfartal
Mae Live Music Now’n ymrwymedig i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac o ganlyniad rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliannol ac yn ein sefydliad, gan gynnwys pobl sy’n wynebu rhwystrau o anabledd neu sydd wedi profi hiliaeth.
Caiff pob ymgeisydd Anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol gyfweliad. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer gyfle i drafod eu gofynion mynediad ar gyfer y cyfarfod.
Mae Live Music Now yn gyflogwr hyblyg a theg; gallai gweithio hyblyg fod yn bosib o’i drafod â rheolwyr llinell.
Os hoffech drafod y cais ymhellach, os oes angen cymorth arnoch wrth gwblhau’r cais ar-lein, neu os hoffech gyflwyno’ch ymatebion mewn fformat gwahanol, e-bostiwch jobs@livemusicnow.org.uk neu ffoniwch 07549 341 316.
Nodiadau
Gall pob swydd newid o bryd i’w gilydd a chaiff y disgrifiad swydd hwn ei adolygu’n rheolaidd. Mae’r disgrifiad swydd yn ganllaw i’r gwaith y bydd yn rhaid i chi ei wneud ac nid yw ond yn rhan o ystod o gyfrifoldebau’n unol â graddfa’r swydd.
Yn anffodus ni allwn roi adborth onid ydych chi ar y rhestr fer. Byddwn yn rhoi gwybod i chi p’un a ydych chi ar y rhestr fer ai peidio.