Mae Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd ddiwedd yr Haf 2021.  Erbyn hynny bydd wedi cwblhau 13 blynedd yn y swydd.

Gan gyfeirio at ei gyhoeddiad, dywedodd Nick Capaldi:

"Mae gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn fraint ac yn bleser.  Rwyf wedi cwrdd â llu o artistiaid ac unigolion creadigol arbennig iawn ac wedi cael fe synnu'n barhaus gan yr ysbrydoliaeth yn y celfyddydau yng Nghymru a'u hansawdd.  Rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gefais gan grŵp arbenigol o aelodau'r Cyngor.  Ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i'm cydweithwyr gwych yng Nghyngor y Celfyddydau sydd wedi gweithio'n ddiflino i feithrin y celfyddydau yng Nghymru.

“Mae effaith y pandemig Covid-19 wedi mynnu fy holl sylw ac rwyf wedi treulio'r rhan helaethaf o'r flwyddyn ddiwethaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu'r celfyddydau yng Nghymru.  Erbyn diwedd yr Haf nesaf rwy'n ffyddiog y bydd gweithgaredd cyhoeddus wedi ailddechrau ac y bydd y celfyddydau'n ffynnu unwaith eto.

“Felly, rwy'n teimlo mai nawr yw'r amser priodol i rywun newydd gymryd yr awenau a chyflwyno syniadau newydd er mwyn mynd i'r afael â'r heriau gwahanol sydd i ddod.  Mae'n bwysig caniatáu digon o amser i recriwtio fy olynydd ac rwy'n sicr na fydd prinder ymgeiswyr gwych ar gyfer yr hyn sydd, yn fy marn i, yn swydd orau yn y celfyddydau yng Nghymru."

Meddai Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George:

"Rydym ni, yng Nghymru, wedi bod yn ffodus iawn o gael Nick yn arwain Cyngor y Celfyddydau ers ymhell dros ddeng mlynedd.  Mae ei effaith ar ddatblygiad y celfyddydau yma wedi bod yn bwerus ac mae wedi chwarae rhan allweddol o ran sicrhau eu ffyniant.

“Mae'n was cyhoeddus rhagorol - o ran ei uniondeb, ei ymrwymiad dwfn a diflino a'i grebwyll cadarn a threiddgar.  Yn anad dim, mae'n gwirioni ar greadigrwydd artistiaid ac mae ganddo angerdd tuag at sicrhau bod profiad trawsnewidiol o'r celfyddydau yn cyrraedd cyfran ehangach o'r cyhoedd.

“Gan weithio gyda'i gydweithwyr talentog a Chyngor ymrwymedig, mae Nick wedi newid lle y celfyddydau yng nghymdeithas Cymru.  Mae iddynt le canolog, maent yn rhan o'r brif ffrwd, ac maent wrth galon ein holl freuddwydion a dyheadau.  I ddefnyddio un o'i ymadroddion - un y mae'n ei ddefnyddio i'n herio ni i gyd i fynd ar drywydd y cyfiawnder cymdeithasol sydd ei angen wrth ymateb i argyfwng y pandemig - mae wedi 'ail-osod y llwyfan'.

“Mawr yw ein dyled iddo a byddwn yn ei anrhydeddu yn y ffordd orau, sef drwy barhau'n ddygn â'r gwaith y mae wedi'i wneud mor rhagorol."

Ymunodd Nick Capaldi â Chyngor Celfyddydau Cymru ym mis Medi 2008.  Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Arts Council England ar gyfer rhanbarth De-orllewin Lloegr. 

Graddiodd o'r Coleg Cerdd Brenhinol gan ddechrau ei yrfa fel pianydd proffesiynol.  Cafodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus yn y Celfyddydau gan Brifysgol Dinas Llundain ac mae'n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.  Mae hefyd yn un o Lywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.