"Cafodd y pandemig effaith fawr ar ein heconomi, ein diwylliant a'n ffordd o fyw. Dros nos, arweiniodd y pandemig byd-eang at chwalfa yn ein gweithgareddau cyhoeddus a’n ffordd o fyw ac o weithio.

Mae'n amlwg bellach mai'r celfyddydau fydd un o'r sectorau olaf i ailymddangos yn llawn o’r cyfnod cloi a’r cyfyngiadau cymdeithasol. Mae hyn yn cael effaith sy'n peri pryder ar wytnwch ariannol sefydliadau a gweithwyr llawrydd creadigol. Ein tasg, felly, yw mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu'n awr a datblygu ymatebion cadarnhaol sy'n diogelu a chynnal y sector. Mae hyn yn golygu gweithio gyda'n rhanddeiliaid, ein partneriaid a'r rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau i gytuno ar gamau gweithredu penodol sy'n ymateb gyda dychymyg, ymarferoldeb a bod yn agored i’r argyfwng."