Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Y Rôl

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Brif Chwaraewr yr Adran Bas Dwbl i ymuno gyda’n cerddorfa contract amser llawn. Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, mae Cerddorfa WNO yn un o'r ddau ensemble llawn amser, parhaol, sydd wrth wraidd y Cwmni, ochr yn ochr â Chorws WNO. Fel cwmni cenedlaethol â statws rhyngwladol, mae WNO wrth wraidd y gwaith o greu cerddoriaeth yng Nghymru ac yn chwarae rôl werthfawr o fewn y cymunedau mae’n eu gwasanaethu yn Lloegr.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

· Bod y Prif Chwaraewr Adran y Bas Dwbl gyda Cherddorfa WNO fel rhan o’i opera llawn, recordio ac amserlen gyngherddau sylweddol.

· Bod y Prif Chwaraewr Adran y Bas Dwbl mewn ensembles llai fel rhan o gylch gorchwyl prosiectau WNO yn ôl yr hyn sy’n ofynnol gan y Cwmni.

· Bod yn gyfrannwr gweithredol at raglenni prosiectau ymgysylltu WNO ar draws Cymru a Lloegr.

Beth sydd ei angen arnoch?

· Safon uchel iawn o allu offerynnol technegol, sgiliau cerddoriaeth a pherfformio.

· Profiad amlwg fel prif chwaraewr.

· Profiad o chwarae gyda cherddorfeydd symffoni/bale/opera proffesiynol.

· Y gallu i weithio fel rhan o dîm.

· Sgiliau rhyngbersonol da.

· Sgiliau cyfathrebu da.

Beth ydym ni’n gallu ei gynnig i chi?

Cyflog 

£43,964 y Flwyddyn

Pensiwn 

Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Aelodaeth Campfa

Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.

Gostyngiadau 

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd.

Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park

Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Rydym yn darparu gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i’n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.

Gwersi Cymraeg

Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.

Mae pob cais i’w gyflwyno drwy Musical Chairs – www.musicalchairs.info
 

Dyddiad cau: 11/06/2025