Yfory rhwng 9.30am ac 11am ddydd Mawrth 28 Medi bydd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cyfrannu at drafodaeth "Adeiladu'n ôl yn Decach: y GIG yng nghyd-destun elfennau cymdeithasol allweddol ym maes iechyd".

Bydd yn tynnu sylw at ein rhaglen celfyddydau ac iechyd sy’n cydweithio â Chydffederasiwn GIG Cymru, drwy ein  Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, i hybu cyfraniad y celfyddydau at les.

Meddai Phil George:

"Mae'r celfyddydau ac iechyd yn elfen allweddol o’n gweithgarwch ers rhai blynyddoedd a bydd yn bwysicach byth yn y dyfodol. Mae’r pandemig wedi dangos sut y gall y celfyddydau fod yn gysur ac ysbrydoliaeth ar adegau anodd.

"Mae partneriaeth a chydraddoldeb yn crynhoi ein gwaith yn y maes. Rydym ni’n gweithio gyda Sefydliad Baring, er enghraifft, mewn rhaglen iechyd meddwl newydd. Ac mae ein hymrwymiad i greu mynediad cyfartal i'r celfyddydau yn cael ei wireddu drwy ein partneriaeth â gweithwyr a sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
 

"Edrychaf ymlaen at y drafodaeth fywiog gyda:

  • yr Athro Syr Michael Marmot (Comisiynydd Bevan)
  • Dr Tracey Cooper (Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru)
  • Paul Morris (Pennaeth Uned Gyswllt yr Heddlu, Llywodraeth Cymru)
  • y Cynghorydd Susan Ellsmore (Arweinydd Cyngor Caerdydd)."

Diwedd                                                                                                          Llun 27 Medi 2021

Nodiadau i’r golygydd:

Bydd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cyfrannu at y drafodaeth ar "Adeiladu'n ôl yn decach: y GIG yng nghyd-destun elfennau cymdeithasol allweddol ym maes iechyd" yng nghynhadledd Llesiant Cymru y Conffederasiwn rhwng 09.30am ac 1100am, dydd Mawrth 28 Medi.

Dyma ragor o fanylion am y gynhadledd: https://www.nhsconfed.org/WellbeingforWales

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg Cyngor Celfyddydau Cymru – 029 2044 1344