Dydd Gŵyl Dewi Hapus
Yn 2015 Cymru oedd y wlad gyntaf i greu deddfwriaeth yn ymrwymo pob corff cyhoeddus i ddatblygu diwylliannol cynaliadwy.
Ers hynny, ma’ artistiaid o Gymru yn arwain y gad yn greadigol wrth greu gwaith a chynnwys sy'n ymateb i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn ein hysbrydoli i ddychmygu dyfodol gwell. O Siapan i’r Iwerddon, Ffindir i Seland Newydd, mae’r gwaith yn denu sylw sylweddol yn Rhyngwladol.
Ar gyfer ein hymgyrch Pethau Bychain 2025 (ymgyrch flynyddol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru sy’n amlygu sut mae’r celfyddydau yn gwneud y pethau bychain sy’n gallu newid y byd) eleni, rydym wedi comisiynu ffilm sy’n dathlu ac yn arddangos y prosiectau celfyddydol amrywiol sydd wedi eu hysbrydoli gan neu sy’n tynnu sylw at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Mae’r cynnwys wedi ei guradu gan y bardd Iestyn Tyne sydd hefyd yn un o artistiaid Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol.
Dyma ddarn creadigol gan Iestyn a fydd yn rhan o’n ffilm hirach sydd i ddod.
Artistiaid sy'n rhan o'r ffilm:
- Manon Awst
- Junko Mori / Plas Glyn-Y-Weddw
- Qwerin
- Cyfnewidfa Len Cymru & Literature Across Frontiers - Adleisiau Arfordirol Twrci & India
- Gareth Bonello
- Jukebox Collective