Ar 1 Hydref 2025, penodwyd Christina Macaulay yn aelod newydd o Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn cystadleuaeth agored yn gynharach yn 2025. Mae ganddi dros dri degawd o brofiad yn gweithio yn sector y celfyddydau ac mae'n angerddol am gerddoriaeth a chefnogi talent sy'n dod i'r amlwg.
Mae aelodau Cyngor y Celfyddydau yn gyfrifol am bennu nodau ac amcanion Cyngor Celfyddydau Cymru ac am sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru.
Mae eu rolau, sy'n rhai gwirfoddol a di-dâl, yn cynnwys sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol yn cael ei fuddsoddi'n effeithiol ledled Cymru i gefnogi'r celfyddydau.
Bywgraffiad
Symudodd Christina o'r Alban i Gaerdydd ym 1993 i sefydlu cyfres deledu gelfyddydol i BBC Cymru, The Slate. Ers hynny bu’n gyfrifol am ystod o raglenni celfyddydol a cherddorol gan gynnwys Canwr y Byd Caerdydd, The Story of Welsh Art, Wales: Music Nation a nifer o raglenni dogfen ac am wyliau a chyngherddau. Am 10 mlynedd bu'n Olygydd Comisiynu gan arbenigo mewn rhaglenni ffeithiol. Ymadawodd â’r BBC ym Mawrth 2025 i weithio ar ei liwt ei hun gan dreulio amser ar ei diddordebau cerddorol a chelfyddydol. Mae'n aelod o fwrdd Tŷ Cerdd ac Actifyddion Artistig.
Fel cerddor amatur, mae'n canu gyda'r côr cerdd gynnar, Camerata Cymru, ac yn chwarae chwiban D isel mewn sesiynau gwerin. Oherwydd ei chariad at gerddoriaeth werin, mae’n helpu i redeg Clera sy'n hyrwyddo ein cerddoriaeth draddodiadol. Mae’n angerddol am gefnogi talent sy'n dod i'r brig ac yn mynd i ddigwyddiadau diwylliannol o bob math yn gyson. Bu ar fyrddau Amgueddfa Cymru a Ffilm Cymru.
Dysgwr Cymraeg brwd yw hi ac mae ganddi 2 o blant sydd wedi tyfu i siarad Cymraeg (canwr clasurol ac animeiddiwr). Yn 2025 cafodd wobr Geraint Stanley Jones gan Urdd Gerdd Cymru am ei chyfraniad at ddarlledu cerddoriaeth o Gymru.
Wrth groesawu'r aelodau newydd, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Christina Macaulay i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi'n dod â dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad, gwybodaeth ac arbenigedd i'r rôl gyda'i chefndir mewn darlledu celfyddydol. Bydd hi'n gaffaeliad i gyngor a sefydlwyd i gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau yn sector y celfyddydau."
Ychwanegodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau:
"Rwy'n falch iawn bod Christina Macaulay yn ymuno â Cyngor y Celfyddydau. Bydd ei phrofiad proffesiynol helaeth a'i brwdfrydedd a'i hymrwymiad personol i'r celfyddydau yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd yn gaffaeliad enfawr i gydweithwyr y cyngor a staff Cyngor y Celfyddydau."