Mae'r adolygiad yn un o sawl ymrwymiad gan y Cyngor yn sgil adolygu sut y mae’n ariannu sefydliadau o 2024/25 ymlaen.

Gwaith y Comisiynydd fydd cadeirio panel llywio’r adolygiad a chyflwyno ei argymhellion i'r Cyngor.

Mae gan Angharad dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector cerddorol, yn rheolwr prosiect ac ymgynghorydd marchnata. Drwy weithio gyda Womex, English Folk Expo, Cysylltiadau Celtaidd/Showcase Scotland, Universal Decca a Recordiadau Real World, mae ganddi brofiad o'n talent gerddorol a'n traddodiadau cyfoethog.

Bu’n rheoli’n llawrydd Symposiwm Cymru ym Mlwyddyn Ieithoedd Cynhenid UNESCO a’i phrosiect cerddorol rhyngwladol, Mamiaith, gan gydweithio â chynhyrchydd yn America i ddod o hyd i gyfleoedd i’n cerddorion.

Mae ganddi gysylltiadau cydweithiol a chadarn â sefydliadau, unigolion a pherfformwyr ym maes ein cerddoriaeth draddodiadol. Mae'n edrych ymlaen at gysylltu’n eang â’n cymuned gerddorol i glywed ei barn, ei phrofiadau a'i syniadau.

Mae’r gwaith eisoes ar y gweill a’r dasg gyntaf fydd cynllunio’r adolygiad â phartneriaid allweddol.

Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr adolygiad yn ein cylchlythyr a’n cyfryngau cymdeithasol wrth i ddatblygiadau ddigwydd yn yr wythnosau nesaf.