Mae Angharad Harrop, PhD, wedi'i phenodi'n Bennaeth Dawns yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, mewn rôl newydd wedi ei chreu fel rhan o ailstrwythuro'r sefydliad gyda ffocws o'r newydd ar ffurfiau celf unigol, ymgysylltu a chefnogaeth busnes.

Fel Pennaeth Dawns yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, ei bwriad yw hyrwyddo creadigrwydd, cynhwysiant, a grym dawns i gysylltu pobl, lle a dychymyg, er mwyn sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru yn gallu profi llawenydd a bywiogrwydd dawns.

Dywedodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, 

"Gyda bron i ugain mlynedd o brofiad y maes dawns gan gynnwys dawns yn y gymuned, addysg a pherfformiad, rydym yn teimlo'n lwcus iawn o gael Angharad yn ymuno â ni i arwain ar Ddawns. Mae hi wedi adeiladu gyrfa amrywiol gan gydweithio â sefydliadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Cirque Bijou, Theatr Cymru, a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n gilydd i ymateb i anghenion y sector a chefnogi ein talent i ffynnu."

Mae'r penodiad yn dilyn adolygiad helaeth i'r sector dawns yng Nghymru, a wnaeth gyfres o argymhellion:

Adolygiad strategol yn galw am weithredu i ail-ddychmygu, ailadeiladu ac ail-fuddsoddi mewn Dawns yng Nghymru

Dywedodd Angharad Harrop,

"Wedi tyfu i fyny yng Nghymru a gweithio fel artist annibynnol am dros 20 mlynedd, rwyf wedi elwa ac wedi bod yn dyst i angerdd, ymroddiad a chelfyddyd y rhai sy'n gwneud i ddawns ffynnu yn ei holl ffurfiau mewn cymunedau ledled y genedl. 

"Arh yd a lled Cymru mae ymarfer dawns rhagorol sy'n ysbrydoli, yn cysylltu ac yn cyfoethogi bywydau. Mae’r weithgaredd yma, sy'n cael ei yrru gan unigolion a sefydliadau ymroddedig a medrus, yn creu mannau lle gall pobl fynegi eu hunain, myfyrio a theimlo’n berthyn; rhywbeth sydd ei angen ar gymdeithas nawr yn fwy nag erioed. 

"Fel y nodwyd yn yr Adolygiad Dawns, rydym ar bwynt allweddol i ddawns yng Nghymru. Mae’n fraint i fod yn camu i rôl Pennaeth Dawns Cyngor Celfyddydau Cymru yn y cyfnod yma.  Gan ddefnyddio fy mhrofiad ar draws ymarfer dawns mewn cymunedau, ac ym meysydd iechyd a lles, addysg, perfformio, ac ymchwil, edrychaf ymlaen at gefnogi ffyniant, esblygiad, a pharhad dawns i ysbrydoli ein cymunedau."