Mae'r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad gyda'r nod o greu diwylliant dawns bywiog a chynaliadwy drwy Gymru. 

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn a'r crynodeb yma

Mewn ymateb, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith gyda chyllideb ddatblygu o £350,000 ar gyfer dawns wedi'i glustnodi ar gyfer 2025/26, ar ben y cyllid a ddarperir i gwmnïau dawns drwy gyllid craidd ac i brosiectau drwy grantiau a ariennir gan y Loteri.  

Yn Adolygiad Buddsoddi Cyngor y Celfyddydau yn 2023, Daeth yn amlwg bod angen edrych ar y seilwaith dawns, ac archwilio sut y gallai’r ddarpariaeth edrych yn y dyfodol. Rhan o'r ymrwymiad oedd yr adolygiad o’r ddawns, yn enwedig yr heriau’n wynebu dawns gymunedol. 

Yr ymgynghorydd a'r ymchwilydd, Karen Pimbley, a oedd yn arwain yr adolygiad. Ynddo mae dadansoddiad manwl o’r ecoleg ddawns gan gynnwys dawns broffesiynol, gymunedol, yn yr ysgol, er iechyd ac fel rhan o'n treftadaeth. 

Mae’n tynnu ar ymchwil ac ymgynghoriad helaeth â dawnswyr, cwmnïau, lleoliadau, addysgwyr a chynulleidfaoedd. Mae’n sôn am feysydd o anghydraddoldeb o ran arian a bylchau yn y seilwaith. Mae ganddo 11 argymhelliad i ddatrys y problemau. 

Ymysg yr argymhellion mae: 

  • Penodi arbenigwr dawns i Gyngor Cyngor y Celfyddydau
  • Ariannu bwrsariaethau i unigolion fynd i Ganolfannau Hyfforddiant Uwch
  • Sefydlu panel annibynnol i oruchwylio cynllunio a gweithredu cenedlaethol
  • Datblygu canolfannau cymunedol, cydweithiol ar draws cymunedau a ffurfiau
  • Ymgorffori'r Gymraeg a'n diwylliant yn ein hymarfer dawns 

Mae'r adolygiad yn dangos yn glir yr angen brys am ail-ddychmygu ac ailgodi’r sector a buddsoddi ynddo. Roedd llawer o bobl wedi cyfrannu at yr adroddiad gan roi darlun llawn o'r sefyllfa. Rwy'n ddiolchgar i bawb am eu syniadau. Diolch hefyd i’r Cyngor am lunio cynllun gweithredu hirdymor i ddawns yn ôl yr 11 argymhelliad.

Karen Pimbley, awdur adolygiad

Y camau allweddol a gymeradwywyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y tymor byr a chanolig yw: 

  • Mae'r Adolygiad Dawns wedi datgelu nifer o feysydd ble mae angen datblygu’r sector Dawns a'i chefnogi'n well yng Nghymru. Rydym eisiau ystyried beth yw’r potensial ar gyfer asiantaeth datblygu dawns genedlaethol sy’n gyrru gwelliannau yn y maes
  • Sefydlu tasglu i gynrychioli'r sector Dawns a goruchwylio'r gwaith o weithredu argymhellion yr Adolygiad Dawns a bwydo i mewn i gynllun datblygu dawns i  Gymru
  • Nodi ac ymgysylltu â grŵp o arbenigwyr dawns a all ddarparu mentora, arweiniad, a chefnogaeth i Gyfarwyddwyr Artistig yn y maes, cydlynu sgyrsiau am ymarfer dawns ac am ddewisiadau rhaglennu ar gyfer Lleoliadau, ac ystyried perthnasedd diwylliannol cyffredinol a’r cyd-destun Cymraeg
  • Datblygu canolfannau cymunedol rhanbarthol ar gyfer dawns o fewn mannau creadigol presennol
  • Datblygu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan a gwneud gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ac i greu gwaith sy'n adlewyrchu ac yn cymryd ysbrydoliaeth o'n treftadaeth ddiwylliannol, gan archwilio synergeddau â'n strategaeth Gymraeg a chanlyniadau ein hadolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol
  • Gweithio gyda'r system addysg, gan gynnwys ein rhaglen Dysgu Creadigol a'r Celfyddydau, ar sut i ehangu a datblygu cynnwys dawns mewn ysgolion
  • Gweithio gyda lleoliadau ledled Cymru i feithrin cysylltiadau strwythuredig a chefnogaeth i artistiaid dawns drwy sefydlu cynllun Artist Dawns Preswyl
  • Archwilio'r potensial ar gyfer Canolfannau Hyfforddiant Uwch a/neu opsiynau i ddawnswyr ifanc o Gymru gael mynediad at y rhwydwaith o Ganolfannau Hyfforddiant Uwch yn Lloegr ac elwa ohono
  • Mae’r cynllun gweithredu hefyd yn cyd-redeg â gwaith Cyngor y Celfyddydau ym maes Dysgu Creadigol a'r Celfyddydau ac Iechyd, yn ogystal â'n hymrwymiad i symleiddio prosesau ymgeisio am gyllid fel eu bod yn fwy syml ac yn hygyrch i bawb. 

Mae'r gymuned ddawns yng Nghymru wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb heriau strwythurol dwfn. Rydym yn ddiolchgar i Karen Pimbley a phawb a gymerodd ran wrth greu'r adroddiad hwn ac awgrymu ffyrdd inni gefnogi'r artistiaid ymroddedig sy'n cynnal y rhan hanfodol hon o'n hunaniaeth ddiwylliannol. Rwy'n falch iawn bod gennym bellach ddau arbenigwr dawns Emily Bamkole a Julia Sangani yn aelodau'r Cyngor, a chynllun gweithredu cynhwysfawr yn ei le i roi'r gefnogaeth y haeddianol i’r ddawns yng Nghymru.

Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru