Yn hydref 2020, fel rhan o gyfres o grwpiau ffocws gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gyflawni ein datganiad Black Lives Matter Gorffennaf 2020, cynhaliodd WAI gyfres o sgyrsiau i ail-ddychmygu ein gwaith rhyngwladol yng nghyd-destun byd ôl-Pandemig sy’n wynebu Argyfwng Hinsawdd.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Watch Africa Cymru am eu hadroddiad “Nid yw Moroedd Mwyn yn creu Morwyr Medrus” yn ymateb i’n trafodaethau. Rydym yn cytuno ag argymhellion yr adroddiad hwn, a bod Deddf Llesiant arloesol Cymru yn fap ffordd defnyddiol i gwrdd â’n hymrwymiadau i Nodau Llesiant Cymru,‘ cyfraniad Cymru at Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig.
Darllenwch flog Eluned Haf 'Celfyddyd lles: gwneud y pethau bychain sy'n newid y byd' sy’n cyfeirio at y gwaith hwn.
Dros y misoedd nesaf rydym yn edrych i gyd-gomisiynu adroddiadau pellach gan grwpiau lleiafrifol eraill.
I ddarganfod mwy, cysylltwch â info@wai.org.uk