- Mae Panic Shack, Melin Melyn a KhakiKid yn ymuno â'r prif berfformwyr yn Eglwys y Santes Fair.
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ymuno â Chlebran mewn sgwrs â Sylfaenydd Lleisiau Eraill Philip King
- Mae'r amserlen yn mynd yn fyw ar Ap yr Ŵyl ganol mis Hydref
- Dros 100+ o berfformiadau a sgyrsiau ledled tref Aberteifi a gynhelir gan y darlledwr chwedlonol o’r BBC, Huw Stephens
- Setiau DJ hwyr y nos wedi'u cyhoeddi
-
Cyfle olaf am docynnau - dim ond £65 am dri diwrnod o gerddoriaeth, trafodaeth a syniadau
EGLWYS Y SANTES FAIR
Gruff Rhys | KhakiKid | Melin Melyn | Panic Shack |
Westside Cowboy | Ye Vagabonds
Gyda dim ond mis i fynd, cyhoeddwyd bodPanic Shack, Melin Melyn a KhakiKid yn mynd i ymuno â lein yp yr Eglwys ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi a gynhelir rhwng 30ain Hydref a 1af Tachwedd. Maent yn ymuno â Gruff Rhys, Westside Cowboy a Ye Vagabonds ar gyfer perfformiadau agos atoch a fydd yn cael eu ffrydio'n fyw ledled y byd dros y penwythnos trwy sianel YouTube Other Voices ac yn ddiweddarach yn cael eu darlledu ar y teledu ac ar BBC Cymru, BBC iPlayer, RTÉ a RTÉ Player trwy bartneriaid cyfryngau BBC Cymru ac RTÉ. Bydd y darlledwr chwedlonol o'r BBC a'r darlledwr rheolaidd o Other Voices, Huw Stephens, yn cynnal chweched rhifyn yr ŵyl hudolus Gymreig-Gwyddelig hon a fydd yn cymryd dros Aberteifi am dridiau o gerddoriaeth wych ar draws pob genre.
Mae'r pumawd o Gaerdydd Panic Shack yn dod â'u hegni prysur a'u brand byrlymus o indie-pync meddwol sy'n gymdeithasol ymwybodol i lein yp Lleisiau Eraill – mae eu halbwm hunan deitl a wnaeth cyrraedd y 40 uchaf wedi bod yn un o'r albymau mwyaf cyffrous eleni, ac yn 2025 maen nhw wedi chwarae yn Glasto, Reading, Leeds ac SXSW ac wedi cefnogi bandiau fel Bob Vylan, Soft Play ac Orlando Weeks.
Mae ffefrynnau Lleisiau Eraill o 2024, Melin Melyn, yn fwy na mond band. Un o brif actau’r genhedlaeth aur newydd o artistiaid o Gymru, mae Melin Melyn yn chwarae caneuon gwlad-syrffio-pop-twang seicedelig hen ffasiwn, yn llawn gast o gymeriadau lliwgar a bydoedd hudolus sy'n cyd-fynd â realiti anarferol heddiw. O ddewiniaid direidus i derfysgoedd ffermwyr, dyma odrwydd ar ei orau; fel plentyn cariad Gruff Rhys a Gorky's, mae Melin Melyn yn "hollol lawen ac yn hwyl go iawn." Focus Wales.
Yn dod o Ddulyn, mae KhakiKid yn tynnu ar ddylanwadau gan Tyler, The Creator, Mac Miller a chyfoeswyr Gwyddelig fel Kojaque a Bricknasty. Y canlyniad yw sain sy'n gwbl unigryw - â blas jazz, anarferol ac yn atseinio'n emosiynol. Yn chwareus ac yn hunan ymwybodol, mae ei gyfansoddi caneuon yn cario hiwmor a chalon ei wreiddiau Arabaidd-Gwyddelig, ac wedi ennill dilyniant ffyddlon llewyrchus yn Iwerddon a thu hwnt.
Mae setiau DJ hefyd wedi cael eu datgelu ar gyfer yr Hwb yn y Mwldan; bydd Canol / Connections / DJ Branwen (Goldhill Disco) / DJ Jazzy G / Good Nature Party / Moonshine Sounds / Pyramid Scheme gyda/with Aled Simons / Yann De Galles yn cadw egni'r llawr dawns i fynd rhwng setiau byw ac i'r oriau mân dros y penwythnos.
Bydd amserlen lawn yr ŵyl, gan gynnwys dros 100 o berfformiadau byw ledled Aberteifi dros benwythnos yr ŵyl, ar gael o ganol mis Hydref drwy Ap yr ŵyl ‘Other Voices’. Mae’r ap yn llawn gwybodaeth am bwy sydd ble a phryd, ynghyd â phroffiliau o’r holl artistiaid sy’n ymddangos, a dolenni i restrau chwarae i’ch cyffroi am yr hyn sydd i ddod. Mae’r ŵyl yn ddiolchgar am gefnogaeth hael noddwyr yr Ap eleni; Cardigan Bay Properties, Wnco Mwnco Wines, The Cellar, Three Little Pigs, Siop y Pentre Cilgerran, Caws Teifi, O.C.Davies, Hiut Denim, Manucci’s, Tŷ Annie, Snip N’ Slice, Bay Coffee Roasters a Yonder.food. Bydd yr amserlen lawn yn cael ei datgelu drwy’r ap dros yr wythnosau nesaf.
LLWYBR CERDD
Mae rhestr derfynol Llwybr Cerdd Lleisiau Eraill Aberteifi hefyd wedi’i chwblhau, gan ychwanegu at benwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth gyda dros 100 o setiau byw mewn lleoliadau ledled Aberteifi. Gyda genres yn amrywio o hip-hop i werin, roc i R&B, a phopeth rhyngddynt, mae’r Llwybr Cerdd yn arddangos y talentau gorau a mwyaf disglair o Gymru ac Iwerddon.
Y rhestr derfynol o artistiaid i'r Llwybr Cerdd yw:
Afrocluster / Annie-Dog / Baby Brave / Basht / Bruna Garcia / Carys Eleri / Clare Sands / Curtisy / Daithí / Danielle Lewis / David Murphy / Dewin / Dionne Bennett / Ellie O'Neill / Internet Fatigue / George Houston / God Knows / Gwen Sion / Joshua Burnside / Kidsmoke / Lisa Knapp and Gerry Diver / Lullahush / Makeshift Art Bar / Meabh McKenna / Meryl Streak / Molly Palmer / Morn / Nancy Williams / Piaras O’Lorcain / Qbanaa / Róis / Salamay / Séamus & Caoimhe Uí Fhlatharta / Siula / Still Blue / Súil Amhain / Sexy Tadhg / Sustinere / Taff Rapids / Talulah / Tessio / The Factory Set / Tokomololo / Tramp / VRï / Wrkhouse
Mae sesiynau Clebran yn dychwelyd i Mwldan 2, ac mae rhaglen eleni, Edrych Tuag Adref/Looking Towards Home, yn archwilio pynciau sydd wrth wraidd bywyd ar draws y ddwy genedl: iaith, hunaniaeth, amgylchedd, amaethyddiaeth, tai, mudo a thraddodiadau diwylliannol. Mae cyfranwyr yn amrywio o ffermwyr a choedwigwyr i gerddorion, awduron ac ymgyrchwyr, gyda thrafodaethau wedi'u gwreiddio ym mhrofiadau cymunedau ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Bydd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn cymryd rhan mewn sgwrs arbennig gyda Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Lleisiau Eraill, Philip King, ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl.
Mae siaradwyr eleni yn cynnwys:
SIARADWYR CLEBRAN
Angela Hui / Actavia / Ben Lake AS/MP / Dr Amy-Jane Beer / Dr Elizabeth O'Connor / Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru / Jessica McQuade / Matthew Yeomans / Meinir Howell / Molly Garvey / Molly Palmer / Owen Shiers / Peter Twomey / Ray Ó Foghlú / Rhiannon Mair / Róisín Lanigan / Séamus Barra Ó Súilleabháin / Tash Reilly / Yassa Khan
Yn ôl ar gyfer 2025, bydd sesiynau Clebran ar y Llwybr yn digwydd yn Festri hanesyddol Bethania, gyda chyfres o sgyrsiau agos atoch a gynhelir gan Molly Palmer a Chris Kissane.
CLEBRAN AR Y LLWYBR
Billy Mag Fhloinn / Carys Eleri / Chris Kissane / Joshua Burnside / Dionne Bennett / God Knows / Róis / Sexy Tadhg / Tokomololo
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
“Mae Lleisiau Eraill wedi dod yn uchafbwynt calendr gwyliau Cymru, gan groesawu rhai o'n talentau cerddorol gorau i ganol Aberteifi bob hydref. Mae gan yr ŵyl eleni un o'i perfformwyr mwyaf cyffrous hyd yn hyn, gydag artistiaid Cymreig newydd yn perfformio ochr yn ochr â rhai o'n hartistiaid mwyaf poblogaidd a chydnabyddedig yn rhyngwladol.
"Yn gynharach eleni fe wnes i adnewyddu ein Datganiad a Rennir rhwng Iwerddon-Cymru gyda'r Tánaiste Gwyddelig, sy'n cynnwys diwylliant fel rhan allweddol o'n cydweithrediad. Mae'r ŵyl yn dathlu ein cysylltiadau cerddorol a ieithyddol, gan barhau â'r berthynas rhwng Cymru a’r Gwyddelod, sy'n mynd o nerth i nerth.
Edrychaf ymlaen at ŵyl fywiog arall yn Aberteifi eto eleni.
Dywedodd Denise McQuade, Conswl Cyffredinol Iwerddon:
“Mae’n hyfryd gweld Lleisiau Eraill, Aberteifi yn digwydd eto eleni, gan ddod â rhai o’r artistiaid gorau sydd gan Iwerddon a Chymru i’w cynnig ynghyd. Mae cyfoeth y cydweithrediad diwylliannol hwn mond yn un agwedd ymhlith llawer o'r cydweithrediad cynyddol rhwng Iwerddon a Chymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Aberteifi yn llawn creadigrwydd yn ystod Lleisiau Eraill ac rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd.”
Mae Clebran ac Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael eu llwyfannu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cronfa Gymodi'r Adran Materion Tramor, ac yn cael eu cynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio gan Triongl i'w ddarlledu'n ddiweddarach ar RTÉ.
Ewch i www.othervoices.ie am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau.