Llongyfarchiadau i Jenny Hall o Craftedspace - mae ei dyluniadau ar gyfer cynhyrchiad Walk the Plank, sef  Midsummer Mystery, wedi ennill gwobr 1af yn y categori Gofod a Gwrthrych Proffesiynol yng Ngwobrau Dylunio Llwyfan y Byd 2025 a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Sharjah yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. 

Cynhelir y gwobrau bob pedair blynedd, ac maent yn dathlu'r gorau mewn dylunio ar gyfer perfformio rhyngwladol. Dyma'r tro cyntaf yn ei hanes i'r digwyddiad gael ei gynnal yn y Dwyrain Canol. Yn flaenorol fe'i cynhaliwyd yn Toronto, Seoul, Caerdydd, Taipei a Calgary.

Crëwyd Midsummer Mystery ar gyfer Bodø2024 Prifddinas Diwylliant Ewrop ac roedd yn cynnwys tŵr pren telesgopig ysblennydd a losgodd yn ddramatig i'r ddaear mewn tân o beirodechneg: diweddglo trawiadol a fachodd dychymyg cynulleidfaoedd. 

Wrth fyfyrio ar y cyflawniad, dywedodd Jenny, "Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst i waith caled, creadigrwydd ac angerdd pawb sy'n ymwneud â'r cynhyrchiad unigryw hwn, yn ogystal â harddwch dinas Bodø." 

Dywedodd cyfarwyddwraig Walk the Plank, sef Liz Pugh, "Rydym wrth ein bodd i weld talent eithriadol Jenny yn cael ei ddathlu ar lwyfan byd-eang ac yn falch bod Midsummer Mystery yn parhau i ddisgleirio fel arddangosfa o greadigrwydd beiddgar, cydweithredol." 

Roedd mynychu ac arddangos yn Sharjah yn bosibl oherwydd Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Credyd llun: David Engmo