Ar y cyd ag arddangosfa Linder: Danger Came Smiling yn Oriel Gelf Glynn Vivian, mae’r artistiaid o Abertawe, Vivian Ross-Smith a Holly Slingsby, yn cyd-guradu penwythnos o berfformiadau byw a fideo. Mae’r penwythnos o raglenni yn ymateb i’r syniadau o fywyd teuluol, y ffordd rydym yn ymddwyn mewn cymdeithas, y cyfryngau torfol, cyrff, cymeriadau clasurol a phleser.
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer perfformiad un sgrîn sy’n cyd-fynd â’r themâu hyn. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ffilmiau sy’n canolbwyntio ar ddulliau collage a delweddau nad ydynt yn rhai manylder uwch.
Manylion: Dangosir ffilmiau ar ffurf tâp arddangos drwy gydol y noson agoriadol a’r penwythnos dilynol, 20 i 23 Tachwedd 2025 yn Oriel Gelf Glynn Vivian.Os dewisir ffilm, mae ffi sgrinio o £50 yn daladwy i bob artist.
- Cyfnod cyflwyno gwaith yn cychwyn: 12 Medi
- Dyddiad cau cyflwyno gwaith: 28 Medi am 23:59
- Hysbysir artistiaid: 13 Hydref
- Dyddiadau dangos: 20 i 23 Tachwedd 2025
Cymhwyster: Ni ddylai ffilmiau fod yn hwy na 15 munud, rhaid iddynt fod yn rhai sianel unigol ac yn addas ar gyfer tafluniad digidol ar ffurf tâp arddangos.
Drwy gyflwyno’r gwaith rydych yn cadarnhau mai chi yw’r perchennog/awdur ac yn rhoi caniatâd i ni arddangos y gwaith ar y dyddiadau uchod. Caiff y digwyddiad ei ddogfennu ac felly, mae’n bosib y tynnir llun o’ch gwaith chi hefyd.
Ariannwyd prosiect Penwythnos Perfformiadau Abertawe gan Grant ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.