Mae'r soprano Elin Pritchard a'r tenor Huw Ynyr wedi recordio fideos ar gyfer Gwnaethpwyd yng Nghymru am y ffilm opera Gymraeg newydd Tanau’r Lloer a'r hyn y gall cynulleidfaoedd ei ddisgwyl o'r unig ffilm Gymraeg a ryddhawyd yn ystod 2025.
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru hefyd wedi comisiynu'r artist perfformio, awdur ac adolygydd opera James Ellis i ysgrifennu am y ffilm, ei gwreiddiau llenyddol, yn ogystal â hanes opera mewn ffilmiau.
Yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Chapter, Caerdydd a Pontio, Bangor ddydd Gwener 14 Tachwedd cyn ei rhyddhau ledled Cymru, Tachwedd 15, mae Tanau’r Lloer yn adrodd hanes awdur ar daith drên melancolaidd yn ôl adref. Wrth iddo deithio drwy'r nos, mae atgofion yn dod i'r amlwg unwaith eto, gan ei orfodi i fyfyrio ar ddigwyddiadau o ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
Wedi'i hysbrydoli gan olygfeydd o'r clasur o lenyddiaeth Gymraeg, Un Nos Ola Leuad, gyda sgôr brydferth iawn wedi'i pherfformio gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, mae'r ffilm opera Gymraeg hon yn archwiliad o alar, cof, salwch meddwl a phŵer creu artistig, sy’n ail ddiffinio’r genre.
Cafodd Tanau’r Lloer ei ffilmio'n gyfan gwbl yng Nghymru, gan gynnwys yn Stiwdios y Ddraig a Great Point Seren Studios, ac ar leoliad ym Methesda, Llangollen a Blaenau Ffestiniog.
Cafodd ei chefnogi gan S4C a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.
Darganfyddwch bodlediadau sain Gwnaethpwyd yng Nghymru sy'n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig ar Apple Podcasts, Spotify, Amazon Music neu'n uniongyrchol ar Buzzsprout. Dilynwch ni ar Instagram, Letterboxd a YouTube ar gyfer fideos o sesiynau holi ac ateb ac erthyglau golygyddol.
Mae 'Gwnaethpwyd yng Nghymru' yn brosiect Canolfan Ffilm Cymru, sy'n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Fe'i cefnogir gan gyllid gan Gymru Greadigol a chyllid y Loteri Genedlaethol drwy'r BFI.